Blwyddyn Drosiannol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig 2025–26

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymestyn y Gronfa Ffyniant Gyffredin hyd 31 Mawrth 2026 a bwriedir darparu cyfanswm o £900 miliwn yn 2025–26.
Wrth wneud hynny, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi neilltuo £42.4 miliwn yn ychwanegol i ogledd Cymru ar gyfer 2025–26. Daw £8.6 miliwn o hynny i Sir Ddinbych i’w wario ar brosiectau a blaenoriaethau lleol.
Blaenoriaethau Buddsoddi
Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dal i ganolbwyntio’n bennaf ar dri o feysydd buddsoddi: Dewiswch un o’r rhain i gael gwybod mwy am bob blaenoriaeth:
Cymunedau a Lleoedd
Mae’r flaenoriaeth hon yn canolbwyntio ar wella mannau lleol a dod â chymunedau at ei gilydd. Drwy fuddsoddi mewn broydd, bwriedir hybu balchder bro, cryfhau cysylltiadau cymunedol a hybu twf economaidd hirdymor.
Y rhain yw’r prosiectau a gaiff eu hariannu yn ystod y flwyddyn drosiannol dan y flaenoriaeth hon o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:
Cefnogi Busnesau Lleol
Nod y flaenoriaeth i Gefnogi Busnesau Lleol yw helpu busnesau lleol i dyfu a llwyddo. Gellir defnyddio’r cyllid i annog dyfeisgarwch, hybu gwytnwch a chreu’r amgylchiadau iawn i fusnesau fedru addasu, cystadlu a chyfrannu at yr economi leol.
Y rhain yw’r prosiectau a gaiff eu hariannu yn ystod y flwyddyn drosiannol dan y flaenoriaeth hon o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:
Pobl a Sgiliau
Nod y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau yw helpu pobl i oresgyn rhwystrau rhag cael gwaith ac elwa ar gyfleoedd newydd. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer hyfforddiant, addysg a datblygu sgiliau fel bod mwy o bobl yn aros am waith a bod busnesau lleol yn medru denu’r gweithwyr medrus angenrheidiol iddynt.
Y rhain yw’r prosiectau a gaiff eu hariannu yn ystod y flwyddyn drosiannol dan y flaenoriaeth hon o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin:
Egwyddorion cenedlaethol
Yn ogystal â’r blaenoriaethau buddsoddi, mae’r llywodraeth hefyd wedi pennu pump o egwyddorion cenedlaethol i lywio buddsoddiadau yn y dyfodol:
- Sbarduno twf economaidd
- Rhoi Prydain ar flaen y gad ym maes ynni glân
- Adennill ein strydoedd
- Chwalu rhwystrau rhag elwa ar gyfleoedd
- Creu GIG sy’n addas i’r dyfodol
Sut ariennir prosiectau yn 2025–26
O 2025–26 ymlaen, ni fernir prosiectau mwyach yn ôl yr ymyriadau a wnaed rhwng 2022 a 2025. Yn lle hynny, byddant yn gysylltiedig â themâu ac is-themâu sy’n seiliedig ar egwyddorion yn y tri o feysydd blaenoriaeth: Cymunedau a Lleoedd, Cefnogi Busnesau Lleol a Phobl a Sgiliau.