Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF)

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Gwybodaeth am brosiectau'r Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU sydd wedi llwyddo i gael grantiau o ddyraniad y sir o arian Y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae’r prosiectau llwyddiannus wedi’u dewis yn seiliedig ar eu dyheadau i gyflawni nifer o ymyriadau allweddol sydd wedi’u categoreiddio’n 8 thema:


Ffyniannus: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth

Cael Mynediad at ein Treftadaeth

Cael Mynediad at ein Treftadaeth

Arweinydd y Prosiect:  Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Galluogi mwy o hygyrchedd, defnydd ac ymwybyddiaeth o ddau Ased Amgueddfa Treftadaeth allweddol yn Rhuthun, Sir Ddinbych:

  • Tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1
  • Charchar Rhuthun, sy’n adeilad rhestredig Gradd 2 - yr unig garchar o fath Pentonville sydd ar agor fel Atyniad Treftadaeth yn y DU

Mae’r lleoedd arbennig yma yn croesawu ymwelwyr ar gyfer ymweliadau cyffredinol 6 mis y flwyddyn, a grwpiau sydd wedi archebu ymlaen llaw drwy’r flwyddyn. Maent yn darparu addysg, dysgu anffurfiol, ysgogiad, naws am le, cysylltiad gyda’r Gymraeg a Diwylliant, synnwyr o falchder, profiadau lles a’r cyfle i gysylltu gyda’r gorffennol a gyda’i gilydd.

Rydym yn dymuno gwella mynediad i bobl anabl, hyrwyddo’r safleoedd Treftadaeth hyn yn well a chynyddu digwyddiadau a gweithgareddau i ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd ehangach a sy’n anodd eu cyrraedd. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ymestyn y tymor lle maent ar agor a rhoi budd i’r economi leol, creu swyddi a chynyddu cynaliadwyedd. Rydym hefyd yn dymuno ariannu astudiaeth ddichonoldeb i lywio penderfyniadau ynglŷn â datblygiad Carchar Rhuthun yn y dyfodol fel atyniad Treftadaeth Ddiwylliannol mawr sydd ar agor drwy’r flwyddyn.

Canolfan Ddiwylliant, Treftadaeth a Lles y Farchnad Fenyn

Canolfan Ddiwylliant, Treftadaeth a Lles y Farchnad Fenyn

Arweinydd y Prosiect:  Mind Dyffryn Clwyd

Trosolwg o’r prosiect

Mae’r prosiect yn ymwneud â datblygu canolbwynt twristiaeth a chymunedol i gefnogi adfywio yn Ninbych. Bydd y prosiect yn dod â sefydliadau’r trydydd sector ynghyd, yn creu menter gymdeithasol, sicrhau cynaliadwyedd Amgueddfa Dinbych a chreu gofod deniadol ar gyfer y gymuned leol a thwristiaeth yn ehangach i sicrhau fod Dinbych yn dod yn gyrchfan i ymwelwyr.

Bydd y prosiect yn dod â bywyd yn ôl i adeilad o bwysigrwydd sylweddol i dreftadaeth Dinbych.

Mae’r Farchnad Fenyn wedi ei lleoli ar dir sy’n ffinio â Llain y Capel a Lôn Crown yng nghanol Dinbych. Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers mis Gorffennaf 2018.

Cronfa Astudiaeth Ddichonoldeb Cyngor Sir Ddinbych

Cronfa Astudiaeth Ddichonoldeb Cyngor Sir Ddinbych

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Mae gan y Tîm Datblygu Economaidd a Busnes o fewn Cyngor Sir Ddinbych gyfrifoldeb am yrru datblygiad economaidd ac adfywio ar draws y sir gyfan.

Cynhelir ac adolygir prosiectau posibl yn y dyfodol yn erbyn y dewisiadau cyllido ar sail barhaus.

Mae prosiectau posibl yn cael eu halinio gyda strategaethau corfforaethol CSDd ac yn dwyn ffrwyth yn ôl yr agen gyda chymorth gan Gynghorwyr, cymunedau a busnesau.

Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen - Aros ar y Trywydd Iawn

Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen - Aros ar y Trywydd Iawn

Arweinydd y Prosiect: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen

Trosolwg o’r prosiect

Nod Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen yw datblygu ‘pecyn i gryfhau’r sefydliad’ gan eu galluogi i barhau eu proses ailstrwythuro yn dilyn nifer o flynyddoedd o newid sefydliadol.

Trwy gyflwyno adnoddau staff newydd, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar sefydlu cadernid o fewn meysydd hanfodol y sefydliad, gan gynnwys:

  • gwirfoddoli
  • hyfforddi
  • dehongli
  • cadwraeth

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys gwaith dichonoldeb ac arolwg er mwyn diogelu’r sefydliad at y dyfodol, hyrwyddo arwyddocâd hanesyddol Dyffryn Dyfrdwy a’i le yn Sir Ddinbych heddiw.

Gwefannau cysylltiedigllangollen-railway.co.uk (gwefan allanol)

Cronfa Marchnad y Frenhines

Cronfa Marchnad y Frenhines

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn cefnogi sefydliad y farchnad masnach newydd yn Adeilad y Frenhines yn y Rhyl.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio tuag at osodiadau mewnol y brif neuadd farchnad ac unedau busnes masnachol unigol.

Yn bennaf bydd yn cefnogi busnesau bychain sy’n ceisio sefydlu ôl-troed o fewn marchnad newydd ffyniannus.

Nod y prosiect yw creu gofod a gaiff ei ddefnyddio gan y gymuned ac ymwelwyr a gweithredu fel angor ar gyfer cynyddu nifer yr ymwelwyr i mewn i ganol y dref.

Adfywio promenâd y Rhyl

Adfywio promenâd y Rhyl

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect hwn yw gwella ardal promenâd poblogaidd y Rhyl er mwyn cyd-fynd â gwaith adfywio parhaus y Rhyl yn ogystal â’r gwaith amddiffyniad arfordirol miliynau o bunnoedd.

Mae gwaith yn cynnwys:

  • amnewid ac uwchraddio celfi stryd megis tynnu a newid:
    • biniau
    • meinciau a ffensys
    • goleuadau
    • rhwystrau mynediad
    • polion baneri
  • nifer o welliannau amgylcheddol megis:
    • paentio
    • arwynebu
    • tirlunio ac ardaloedd mannau agored
    • rhesymoli arwyddion a chelfi stryd eraill
Cynllun Gwella Eiddo Canol y Dref

Cynllun Gwella Eiddo Canol y Dref

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn targedu eiddo gwag, blêr neu eiddo na ddefnyddir digon arnynt yng nghanol trefi er mwyn:

  • dechrau gwelliannau i harddwch yr ardal
  • ysgogi buddsoddiad
  • cynyddu cyfleoedd gwaith
  • gwella bywiogrwydd canol trefi Sir Ddinbych

Bydd hyn yn cael ei ddarparu drwy raglen grant sy’n agored i berchnogion a deiliaid eiddo masnachol yng Nghanol Tref er mwyn ariannu gwelliannau i ymddangosiad a hyfywedd adeiladau. Bydd y gwaith yn cael ei yrru trwy recriwtio dau Swyddog Gwella Lleoedd dynodedig a fydd yn bresenoldeb rhagweithiol yn y gymuned.

Darganfod mwy am thema 'Ffyniannus: Gwelliannau i Ganol y Dref a Thwristiaeth'

Yn ôl i'r rhestr themâu.


Ffyniannus: Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir

Cefnogi Busnesau Lleol

Cefnogi Busnesau Lleol

Arweinydd y Prosiect: Cadwyn Clwyd

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect hwn yw rhoi hwb i gynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, yn enwedig mewn ardaloedd lle maent ar ei hôl hi.

Bydd yn cefnogi dau faes cyflawni sef:

  1. Grantiau busnes i fusnesau micro a bychan unigol - bydd y ffrwd hon yn darparu grantiau uniongyrchol i fusnesau yn y sir.
  2. Cronfa allweddol ‘Rhwydweithiau Busnes’ - Bydd y ffrwd hon yn hwyluso ac yn cefnogi busnesau lleol a mentrau cymdeithasol i gydweithio ar ddatblygu mentrau sydd er budd y busnesau a’r economi leol

Darganfod mwy am thema 'Ffyniannus: Cefnogaeth Busnes Ar draws y Sir'.

Yn ôl i'r rhestr themâu.


Iachach, Hapusach, Gofalgar: Meithrin Gallu Cymunedol

Cronfa Allweddol Gallu Cymuned

Cronfa Allweddol Gallu Cymuned

Arweinydd Prosiect: Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect yw trawsnewid pŵer a gallu pobl yn y Trydydd Sector ac o fewn cymunedau ledled Sir Ddinbych i greu a darparu gwasanaethau hanfodol mewn byd heriol sy’n newid. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar:

  • Meithrin gallu arweinyddiaeth gynaliadwy mewn sefydliadau Trydydd Sector i allu:
    • gwneud y mwyaf o ymateb y sector i heriau ac anghenion cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg
    • tyfu gwasanaethau i lenwi’r bylchau
    • buddsoddi mewn gwytnwch sefydliadol
  • Creu a darparu model ar gyfer gweithio mewn cymunedau i feithrin hyder a sgiliau pobl i gyd-gynhyrchu datrysiadau i broblemau lleol
  • Darparu rhaglen grantiau arwyddocaol wedi’i thargedu at gefnogi arloesedd, gwytnwch a chynaliadwyedd sefydliadau’r Trydydd Sector sydd eisoes yn bodoli ac er mwyn datblygu rhai newydd.

Darganfod mwy am thema 'Iachach, Hapusach, Gofalgar: Meithrin Gallu Cymunedol'.

Yn ôl i'r rhestr themâu.


Diwylliant a'r Iaith Gymraeg: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd

Cynllun Grantiau Cymunedol a Rhaglen Celfyddydau Creadigol

Cynllun Grantiau Cymunedol a Rhaglen Celfyddydau Creadigol

Arweinydd y Prosiect: Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf. mewn 2 ran:

Rhan 1 - Cynllun Grantiau Cymunedol, sy’n ceisio galluogi sefydliadau llai, fel clybiau chwaraeon lleol a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol i:

  • ymgeisio am gyllid i gefnogi gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol lleol
  • cefnogi cyfleusterau chwaraeon lleol, cynnal twrnameintiau, datblygu a sefydlu timau a chynghreiriau newydd

Rhan 2 - Rhaglen Celfyddydau Creadigol a fydd yn gweithio â phartneriaid trydydd sector allweddol a phartneriaid cymunedol ac iechyd i ddarparu rhaglen gyfranogol y celfyddydau mewn iechyd a lles, mewn lleoliadau cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd.

Swyddog Meysydd Chwarae a Thîm Cynnal a Chadw/Arolygu

Swyddog Meysydd Chwarae a Thîm Cynnal a Chadw/Arolygu

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect hwn yn y lle cyntaf fydd ceisio mynd i’r afael â’r materion uniongyrchol sy’n gysylltiedig â datblygu cynnig chwaraeon cynhwysol, gyda’r nod o ddarparu cyfleusterau i safon dderbyniol a diogel.

Bydd y prosiect hefyd yn recriwtio Swyddog Meysydd Chwaraeon a Thîm Cynnal a Chadw i oruchwylio’r defnydd, gwaith cynnal a chadw ac archebion meysydd chwarae ar draws y sir.

Darganfod mwy am thema 'Diwylliant a'r Iaith Gymraeg: Diwylliant, Chwaraeon a Chreadigrwydd'.

Yn ôl i'r rhestr themâu.


Gwell Cysylltiedig: Cynhwysiant Digidol

Cynyddu lefelau cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol ar draws Sir Ddinbych

Cynyddu lefelau cynhwysiant digidol a sgiliau digidol sylfaenol ar draws Sir Ddinbych

Arweinydd Prosiect: Cwmpas

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn cynnig cefnogaeth i unigolion â chynhwysiant digidol .

Bydd cefnogaeth yn cael ei roi ar ffurf cyngor a hyfforddiant cynhwysiant digidol a bydd dyfeisiau addas yn cael eu darparu i unigolion yn dibynnu ar eu hanghenion.

Bydd cefnogaeth yn cael ei darparu mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys:

  • galwadau ffôn i addysgu pobl sut i ddefnyddio gwefannau ac apiau
  • dosbarthiadau digidol mewn cymunedau
  • grantiau neu dalebau ar gyfer offer a/neu ddata
  • atgyfeirio unigolion i wasanaethau cyflogadwyedd ac addysg bellach

Darganfod mwy am thema 'Gwell Cysylltiedig: Cynhwysiant Digidol'.

Yn ôl i'r rhestr themâu.


Tecach, Diogel a Mwy Cyfartal: Diogelwch Cymunedol

Cymunedau a Natur Croeso Cynaliadwy i Ymwelwyr

Cymunedau a Natur Croeso Cynaliadwy i Ymwelwyr

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn darparu Ceidwaid mewn nifer o safleoedd ymwelwyr allweddol ledled Sir Ddinbych mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn ymwelwyr yn yr ardaloedd hyn.

Bydd y ceidwaid yn darparu cyngor ac arweiniad cadarnhaol i ymwelwyr yn ogystal â helpu i leihau tagfeydd ac effeithiau negyddol niferoedd uchel o ymwelwyr ar y gymuned leol a gwella profiad ymwelwyr.

Bydd y prosiect hefyd yn datblygu a hyfforddi Ceidwaid gwirfoddol a fydd yn cyfrannu at groesawu ymwelwyr mewn safleoedd allweddol a darparu help a chymorth i ymwelwyr.

Gwella’r Parth Cyhoeddus a Mannau Agored

Gwella’r Parth Cyhoeddus a Mannau Agored

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect hwn yw gwella ardaloedd hamdden ledled y sir gyda ffocws ar y canlynol:

  • Gwelliannau i’r parth cyhoeddus yn Bastion Road, Prestatyn a Pharc Glan yr Afon, Llangollen gan gynnwys:
    • amnewid ac uwchraddio celfi stryd megis:
      • biniau
      • meinciau picnic
      • arwyddion seddi
    • gwelliannau amgylcheddol fel uwchraddio rheiliau a bolardiau dur a fydd hefyd yn gwella hygyrchedd i’r ardal
  • Adfywio ardaloedd hamdden yng Ngerddi Botanegol, Y Rhyl, gan gynnwys:
    • newid ffensys terfyn a’r giât ddiogelwch
    • gwelliannau amgylcheddol ac isadeiledd ym mhob rhan o’r parc
Gwelliannau i deledu cylch caeedig mewn mannau cyhoeddus

Gwelliannau i deledu cylch caeedig mewn mannau cyhoeddus

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Uwchraddio camerâu teledu cylch caeedig presennol sydd wedi mynd yn hen mewn mannau cyhoeddus ym mhrif drefi gogledd Sir Ddinbych, gan gynnwys meysydd parcio a gorsafoedd bysiau.

Bydd y prosiect yn cynnwys prynu camerâu parod i ddarparu opsiwn dros dro mewn ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol, a rheoli’r prosiect.

Darganfod mwy am thema 'Tecach, Diogel a Mwy Cyfartal: Diogelwch Cymunedol'.

Yn ôl i'r rhestr themâu.


Gwyrddach: Seilwaith Cymunedol

Darpariaeth Ardaloedd Chwarae Hygyrch

Darpariaeth Ardaloedd Chwarae Hygyrch

Arweinydd Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn darparu ardaloedd chwarae mewn lleoliadau strategol ar draws y sir sy’n hygyrch i bawb drwy osod cyfarpar arbenigol a gwneud gwelliannau i lwybrau cerdded a dodrefn stryd yn y parth cyhoeddus a’r ardal gyfagos.

Parc Gwledig Bodelwyddan

Parc Gwledig Bodelwyddan

Arweinydd Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn datblygu Parc Gwledig ar goetir/parcdir ger Castell Bodelwyddan.

Bydd parc cwbl hygyrch yn cael ei greu i annog trigolion Sir Ddinbych/Conwy i ymweld dro ar ôl tro, ynghyd ag ymwelwyr i’r ardal.

Bydd y prosiect yn rhoi cyfle i bobl dreulio amser yn yr awyr agored a mwynhau cyfleusterau o safon, yr amgylchedd naturiol, asedau treftadaeth a golygfeydd gwych o dirlun arbennig Gogledd Cymru.

Academi Ddigidol Werdd Sir Ddinbych

Academi Ddigidol Werdd Sir Ddinbych

Arweinydd Prosiect: Coleg Llandrillo Menai

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn darparu cymorth gwerthuso a mentora arbenigol i fusnesau bach a chanolig i wella eu galluoedd digidol a net sero yn unol â’u strategaeth fusnes greiddiol, gan gefnogi busnesau i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant a lleihau carbon a chostau.

Bydd y cymorth yn cynnwys:

  • Gwneud gwaith diagnostig ar waelodlin amgylcheddol a digidol y busnes
  • Darparu map gweithredu wedi’i deilwra er mwyn datgarboneiddio a digideiddio
  • Mentora busnesau i gyflawni ar y cynlluniau hynny
  • Dod o hyd i gyllid i ategu buddsoddiadau cyfalaf a rhannu arferion gorau
  • Cefnogi’r newidiadau i’r ffordd o weithredu ac ymddygiad gweithwyr
Prosiect Creu Coetir Sir Ddinbych

Prosiect Creu Coetir Sir Ddinbych

Arweinydd Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella ac ychwanegu at tua 55.5 hectar o dir sy’n eiddo i’r Cyngor ar gyfer storio carbon, bioamrywiaeth a’r gymuned.

Bydd yn creu mwy o goetir llydanddail a chyfoeth o rywogaethau ar 5 ardal werdd mewn amrywiaeth o leoliadau, o ardaloedd preswyl trefol i fryniau’r ucheldir, yn ogystal â gwell mynediad i’r gymuned at fannau gwyrdd a natur ar gyfer hamdden, lles, addysg a chyfleoedd gwirfoddoli.

Bydd hefyd yn cyfrannu at uchelgeisiau’r Cyngor a rhai cenedlaethol i fod yn ddi-garbon net ac yn fwy ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.

Strategaeth Rheoli Cyrchfan a Thwristiaid; Adnoddau Ychwanegol at yr Haf

Strategaeth Rheoli Cyrchfan a Thwristiaid; Adnoddau Ychwanegol at yr Haf

Arweinydd Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y prosiect hwn yn darparu mwy o adnoddau glanhau amgylcheddol a chynnal a chadw tir i ymdopi â’r niferoedd ychwanegol o ymwelwyr a chwsmeriaid yn y sir yn ystod haf 2023/24.

Gwarchodfa Natur Green Gates

Gwarchodfa Natur Green Gates

Arweinydd Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Nod y prosiect hwn yw creu gwarchodfa natur 13.3 hectar yn Green Gates, ger Parc Busnes Llanelwy.

Bydd y datblygiad yn cynnwys plannu coed a blodau gwyllt lleol, ffurfio pyllau a gwlypdiroedd a chreu cynefin i fywyd gwyllt, yn cynnwys gaeafdy a thwr sy’n addas i ystlumod/adar glwydo ynddo, gan hefyd adael rhai ardaloedd heb eu datblygu i adfywio’n naturiol.

Byddai mynediad i’r gymuned ac addysg amgylcheddol ar gael trwy lwybrau a phlatfformau, byrddau dehongli a digwyddiadau.

Prosiect Natur er Budd Iechyd

Prosiect Natur er Budd Iechyd

Arweinydd Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Mae'r Rhaglen Natur er Budd Iechyd yn darparu cyfleoedd i helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy bodlon trwy wella mynediad i'r amgylchedd naturiol ar lefel leol.

Mae’r prosiect yn darparu sesiynau wythnosol sy’n cynnwys sgiliau cadwraeth a gwledig, teithiau cerdded iechyd a natur, celf a chrefft a sesiynau tyfu eich cynnyrch eich hun ynghyd â chyfleoedd i wirfoddoli a datblygu sgiliau.

Allgymorth Cymunedol y Cerddwyr (Gogledd Cymru)

Allgymorth Cymunedol y Cerddwyr (Gogledd Cymru)

Arweinydd Prosiect: Ramblers Cymru

Trosolwg o’r prosiect

Bydd Ramblers Cymru yn adeiladu ar lwyddiant prosiect Llwybrau Lles, gan ddod â cherdded a gwirfoddoli i gynulleidfa ehangach, a chyrraedd cymunedau gyda lefelau uchel o amddifadedd ac unigolion sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i gerdded a’r awyr agored. Drwy ymgynghori a chydweithio bydd Ramblers Cymru yn datblygu cynllun pwrpasol ar gyfer pob cymuned, gan gynnwys y gymuned gyfan a phartneriaid lleol yn y gwaith.

Bydd Ramblers Cymru yn ymgysylltu â chymunedau ac yn grymuso pobl leol i ymfalchïo yn eu bröydd ac i fod yn fwy egnïol. Gan ddefnyddio llwybrau cerdded lleol fel catalydd, bydd Ramblers Cymru yn uwchsgilio gwirfoddolwyr er mwyn gwella llwybrau a chynyddu’r mynediad at fannau gwyrdd, yn ogystal â chreu a hyrwyddo llwybrau newydd, a fydd yn codi ymwybyddiaeth pobl o gyfleoedd cerdded a chymryd rhan lleol.

Gyda chymorth y gymuned bydd Ramblers Cymru yn archwilio’r rhwydwaith llwybrau presennol ac yn asesu’r angen a’r mynediad at lwybrau. Bydd Ramblers Cymru yn darparu hyfforddiant ar gyfer teithiau hunan-dywys, canfod eich ffordd a darllen map, a bydd ein Hyfforddiant Arwain Teithiau yn galluogi gwirfoddolwyr i ddarparu teithiau tywys. Mae Ramblers Cymru yn defnyddio diwrnodau gweithgareddau i ymgysylltu â chymunedau, sy’n cynnwys teithiau tywys ar themâu penodol a gwneud gwelliannau i lwybrau.

Warm Wales- Supporting Communities

Warm Wales- Supporting Communities

Arweinydd Prosiect: Warm Wales

Trosolwg o’r prosiect

Bydd y cynllun peilot hwn yn gweithio â chymunedau yn Sir Ddinbych, gan gynnwys blynyddoedd 5, 8, 9 a 10 mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a phreswylwyr â phob mathau o ddaliadaeth. Bydd yn edrych ar bobl, eiddo, llefydd a phartneriaethau er mwyn

  • Annog gweithredu cymdeithasol i wella lles, hyder a sgiliau pobl
  • Annog gwirfoddoli sy’n cael mwy o effaith, gweithio â’r gymuned ehangach i addysgu pobl, codi ymwybyddiaeth pawb o effeithlonrwydd ynni, technoleg werdd ac effaith tlodi tanwydd a’r argyfwng costau byw
  • Darparu cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim i bobl leihau eu biliau ynni a defnyddio ynni’n fwy effeithlon

Darganfod mwy am thema 'Gwyrddach: Seilwaith Cymunedol'.

Yn ôl i'r rhestr themâu.


Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau

Llwybrau

Llwybrau

Arweinydd Prosiect: Cyngor Sir Ddinbcyh

Trosolwg o’r prosiect

Bydd prosiect Llwybrau yn darparu cymorth i tua 420 o bobl ifanc bob blwyddyn academaidd yn Sir Ddinbych, i leihau'r risg o ymddieithrio oddi wrth addysg, darparu cymorth i ailymgysylltu ag addysg, neu i symud i waith neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11. Y prif nod yw mynd i’r afael ag un o’r pethau sy’n achosi tlodi hirdymor.

Mae Llwybrau yn cynnig dwy brif elfen i gefnogi pobl ifanc ddiamddiffyn:

  • Swyddogion Ymgysylltu Addysg
  • Cwnselwyr, a fydd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol i dargedu iechyd meddwl, yn enwedig ymysg bechgyn
Partneriaeth Sgiliau Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru

Partneriaeth Sgiliau Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru

Arweinydd Prosiect: The Little Learning Company

Trosolwg o’r prosiect

Prosiect treftadaeth a sgiliau a fydd yn cefnogi a diogelu hen grefftau, dulliau adeiladu a pheirianneg drwy greu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a rhannu gwybodaeth rhwng amryw safleoedd yn Sir Ddinbych, gan sicrhau bod gogledd Cymru ar flaen y gad wrth hybu sgiliau treftadaeth. Bydd y prosiect yn:

  • Cynyddu’r gallu i ddarparu hyfforddiant yn y sector.
  • Creu a hwyluso cyfleoedd i rannu gwybodaeth a chefnogi’r rhwydwaith sgiliau treftadaeth presennol.
  • Datblygu a darparu cyfleoedd newydd i bobl 16 oed a hŷn ymuno â’r sector.
  • Creu nifer o gyfleoedd i bobl symud ymlaen i Addysg Bellach, Addysg Uwch neu gael gwaith.
  • Helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau treftadaeth.
  • Cysoni’r ddarpariaeth sgiliau treftadaeth â phrif ffrydiau cyllido.
  • Darparu cyfleoedd newydd i bobl wella eu sgiliau rhifedd.
Rhaglen Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio

Rhaglen Strategol Sir Ddinbych yn Gweithio

Arweinydd Prosiect: Cyngor Sir Ddinbcyh

Trosolwg o’r prosiect

Nod Sir Ddinbych yn Gweithio yw mynd i’r afael â thlodi drwy gefnogi trigolion Sir Ddinbych i gael addysg, gwaith neu hyfforddiant.

Mae’r rhaglen yn darparu llwybr mwy syml i bob preswylydd gael cefnogaeth ac mae’n sicrhau eu bod yn cael eu paru â phrosiectau sydd ag arbenigedd sy’n berthnasol i’w hanghenion penodol nhw.

Darganfod mwy am thema 'Dysgu a Thyfu: Pobl a Sgiliau'

Yn ôl i'r rhestr themâu.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro