Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: diweddariadau

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Diweddariadau am Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Gwybodaeth ddiweddaraf- Gorffennaf 2023

Mae’n bleser gan Gyngor Sir Ddinbych gyhoeddi bod ugain o brosiectau yn Sir Ddinbych wedi llwyddo i gael grantiau o ddyraniad y sir o arian Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG).

Gweld y prosiectau sydd wedi derbyn grantiau.

Diweddariad mis Ebrill 2023

Derbyniodd Cyngor Sir Ddinbych 110 o geisiadau gan brosiectau cymunedol, busnes a menter dros y sir, yn ceisio am swm oedd bron i bedair gwaith yn fwy na’r hyn sydd wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych gan yr UKSPF.

Yn anffodus, golyga hyn na ellir cefnogi’r mwyafrif o brosiectau, a fydd yn newyddion siomedig i nifer o’r ymgeiswyr. Fodd bynnag, bydd cefnogaeth ar gael gan y Cyngor i helpu ymgeiswyr aflwyddiannus i archwilio ffynonellau ariannu eraill ar gyfer eu prosiectau lle bo’n bosibl.

Ar 25 Ebrill 2023, cafodd 29 o brosiectau eu rhoi ar y rhestr fer gan Gabinet Cyngor Sir Ddinbych. Mae’r prosiectau sydd wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych sydd wedi pasio cam 1 o’r broses gwerthuso wedi’u gwahodd i symud ymlaen i gyflwyno cais cam 2. Ni all prosiectau aml awdurdod lleol sydd ar y rhestr fer symud ymlaen i gam 2 nes gwneir penderfyniad ar draws yr holl awdurdodau lleol priodol dros Ogledd Cymru.

Diweddariad mis Hydref 2022

Diweddariad mis Hydref 2022

Yn dilyn cyflwyno Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ym mis Awst 2022, mae Sir Ddinbych, ynghyd â phum awdurdod lleol arall y gogledd, yn aros am adborth gan Lywodraeth y DU. Rydym ni’n gweithio gyda’n cydweithwyr ar draws y rhanbarth i ddatblygu’r broses ymgeisio ac yn gobeithio dechrau gwahodd ceisiadau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Yn y cyfamser, anfonwch e-bost at sharedprosperityfund@denbighshire.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Diweddariad Awst 2022

Diweddariad Awst 2022

Diolch yn fawr i'r holl bartneriaid a gyfrannodd i ddatblygu elfen Sir Ddinbych yn y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer Y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Bu i Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru weithio gyda'i gilydd mewn camau i greu cynllun rhanbarthol i'w gyflwyno ar 1 Awst. Roedd hyn ar lefel uchel iawn ac wedi'i lunio i ddatgloi’r dyraniadau i bob Awdurdod Lleol. Mae Cyngor Gwynedd yn arwain ar Gynllun Gogledd Cymru ar ran y chwe awdurdod.

Ni wnaeth prif ffocws y Cynllun Buddsoddiad Rhanbarthol yn bellach na dewis "ymyriadau". Roedd yr ymyriadau yn lledaenu dros 3 biler (Pobl a Sgiliau, Cefnogi Busnes Lleol, a Chymunedau a Lle) yn disgrifio’n effeithiol cwmpas y gweithgaredd cymwys.

Drwy ymgysylltiad â rhanddeiliaid, roeddem yn gallu penderfynu bod digon o angen/ diddordeb yn Sir Ddinbych i gynnwys 29 ymyriad yn ein hystyriaeth, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu wrth ddrafftio Cynllun Rhanbarthol.

Nid yw Sir Ddinbych, fel yr Awdurdodau Lleol yn y rhanbarth wedi gofyn am geisiadau am gyllid ffurfiol na datganiadau o ddiddordeb ar hyn o bryd (fel y maent wedi mewn rhannau eraill o Gymru), ond wedi croesawu adborth ar y mathau o weithgaredd lleol sydd yn alinio gydag Ymyriadau Llywodraeth y DU.

Byddai rhaid i'r syniadau ddangos yn y pen draw sut y gallent ddarparu'r cynnyrch a deilliannau sy'n ofynnol yn Sir Ddinbych (a dangos aliniad strategol gyda dogfennau megis Cynllun Corfforaethol y Cyngor). Byddant yn cael eu rhannu gyda Bwrdd Partneriaeth Ymgynghorol, aelodaeth sy’n cael ei benderfynu gan Lywodraeth y DU, a fydd yn gwneud argymhellion i'r Cyngor ar gyfer buddsoddiad. Mae proses llywodraethu hwn yn cael ei ddatblygu, a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon a rhannu rhagor o wybodaeth ar ôl ei ddatblygu.

Yn y cyfamser, anfonwch e-bost at sharedprosperityfund@denbighshire.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro