Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cael Mynediad at ein Treftadaeth

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Sir Ddinbych

Trosolwg o’r prosiect

Galluogi mwy o hygyrchedd, defnydd ac ymwybyddiaeth o ddau Ased Amgueddfa Treftadaeth allweddol yn Rhuthun, Sir Ddinbych:

  • Tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1
  • Charchar Rhuthun, sy’n adeilad rhestredig Gradd 2 - yr unig garchar o fath Pentonville sydd ar agor fel Atyniad Treftadaeth yn y DU

Mae’r lleoedd arbennig yma yn croesawu ymwelwyr ar gyfer ymweliadau cyffredinol 6 mis y flwyddyn, a grwpiau sydd wedi archebu ymlaen llaw drwy’r flwyddyn. Maent yn darparu addysg, dysgu anffurfiol, ysgogiad, naws am le, cysylltiad gyda’r Gymraeg a Diwylliant, synnwyr o falchder, profiadau lles a’r cyfle i gysylltu gyda’r gorffennol a gyda’i gilydd.

Rydym yn dymuno gwella mynediad i bobl anabl, hyrwyddo’r safleoedd Treftadaeth hyn yn well a chynyddu digwyddiadau a gweithgareddau i ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd ehangach a sy’n anodd eu cyrraedd. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ymestyn y tymor lle maent ar agor a rhoi budd i’r economi leol, creu swyddi a chynyddu cynaliadwyedd. Rydym hefyd yn dymuno ariannu astudiaeth ddichonoldeb i lywio penderfyniadau ynglŷn â datblygiad Carchar Rhuthun yn y dyfodol fel atyniad Treftadaeth Ddiwylliannol mawr sydd ar agor drwy’r flwyddyn.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Ers mis Hydref, mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi ariannu dau o Gynorthwywyr Treftadaeth llawn-amser yng Ngharchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre. Hyd yn hyn, maent wedi cynorthwyo Rheolwyr y Safleoedd i ddenu mwy o ymwelwyr ac incwm drwy fedru agor y drysau a chynnal digwyddiadau/gweithgareddau na fyddai’n bosib fel arall. Er enghraifft, bu Carchar Rhuthun ar agor am bythefnos adeg Calan Gaeaf a bu’n rhan ganolog o’r Farchnad Nadolig flynyddol.

Bu modd agor drysau Nantclwyd y Dre am y tro cyntaf yn ystod y Farchnad Nadolig a chynhaliwyd digwyddiad lle bu plant yn meddiannu’r amgueddfa ac arddangosfa o’r Nadolig ar hyd yr oesoedd. Trefnwyd Ffair Briodasau a phriodas yno hefyd.

Mae’r cyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi galluogi’r prosiect i benodi Swyddog Marchnata a Hyrwyddo, Swyddog Datblygu Cynulleidfaoedd a Garddwr Treftadaeth. Mae deiliaid y swyddi hynny eisoes yn cael effaith arwyddocaol ar allu’r prosiect i ehangu a gwella mynediad at ein treftadaeth drwy gynorthwyo â’r cynlluniau ar gyfer y tymor newydd, adnabod cynulleidfaoedd newydd a denu gwirfoddolwyr newydd i’n safleoedd. Cynhaliwyd digwyddiad agoriadol a gweithgareddau dros y Pasg yn barod.

Lluniwyd briff o safbwynt hygyrchedd a chaffaelwyd ymgynghorydd ar gyfer y naill safle a’r llall. Mae’r adroddiad ar hygyrchedd dan adolygiad ar hyn o bryd, rhag ofn y bydd angen ymchwilio ymhellach i unrhyw agweddau arno.

Y cam nesaf i’r prosiect fydd cynnal astudiaeth ddichonolrwydd ar gyfer Carchar Rhuthun. Mae briff wedi’i lunio eisoes ac mae hwnnw dan adolygiad cyn mynd ymlaen i benodi ymgynghorydd drwy weithdrefn gaffael Cyngor Sir Ddinbych.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro