Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Lleoedd Newid – Newid Bywydau

Arweinydd y Prosiect: Cymdeithas Frenhinol Mencap (Mencap)
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys mwy nag un awdurdod lleol.
Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y prosiect hwn yn creu dau o Doiledau Lleoedd Newid yn Sir Ddinbych a dau yng Nghonwy er mwyn sicrhau y gall pobl ag anableddau cymhleth a lluosog ddefnyddio cyfleusterau sy’n rhoi’r lle a’r offer angenrheidiol iddynt fedru mwynhau’r gweithgareddau beunyddiol y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol.
Wrth gydweithio â theuluoedd, mudiadau pobl anabl, Grwpiau Mynediad i’r Anabl a budd-ddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach, cynhelir sesiynau ymgysylltu i helpu cymunedau lleol i adnabod safleoedd addas ar gyfer y cyfleusterau.
Bydd y gwaith ymgysylltu’n eirioli o blaid Toiledau Lleoedd Newid ac yn hyrwyddo cynhwysiad o safbwynt pobl anabl. Byddwn yn rhoi’r gallu i bartneriaid gynnal y gwaith pwysig hwn ac adeiladu arno.
Diweddariad y prosiect
Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Yr oedd gosod toiled Changing Places ym Mhafiliwn Chwaraeon Corwen yn Sir Ddinbych yn gam mawr tuag at wella hygyrchedd a chynhwysiant.
Yr oedd y prosiect yn mynd i’r afael â rhwystrau allweddol i unigolion anabl, ac yn gwella cynhwysiant cymdeithasol, lles meddyliol a symudedd. Mae ganddo hefyd y potensial i roi hwb i’r economi ymwelwyr leol drwy wneud Corwen yn gyrchfan mwy hygyrch.
Er bod heriau’n parhau, yn arbennig o ran ymwybyddiaeth, arwyddion, a chynnal a chadw, cafwyd ymateb cadarnhaol i’r cyfleuster ac fe’i croesawyd.
Mawrth 2024
Ym mis Rhagfyr a mis Ionawr bu Mencap Cymru’n ymgynghori â 311 o bobl mewn 13 o wahanol grwpiau cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Detholwyd wyth o safleoedd (pedwar ymhob sir) ar sail poblogrwydd, y ddarpariaeth bresennol ac i sicrhau y gallai pobl ledled y sir gymryd rhan.
Yn ystod mis Chwefror a dechrau mis Mawrth, buom yn cwrdd ymhob un o’r wyth o safleoedd i drafod pa rwystrau oedd yno a sut y gallai rheolwyr neu berchnogion y safleoedd ystyried cael cyfleuster Mannau Newid yno. Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i benderfynu beth yn union yw’r rhwystrau cyn dethol y pedwar o safleoedd terfynol.