Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen - Aros ar y Trywydd Iawn

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen

Trosolwg o’r prosiect

Nod Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen yw datblygu ‘pecyn i gryfhau’r sefydliad’ gan eu galluogi i barhau eu proses ailstrwythuro yn dilyn nifer o flynyddoedd o newid sefydliadol.

Trwy gyflwyno adnoddau staff newydd, bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar sefydlu cadernid o fewn meysydd hanfodol y sefydliad, gan gynnwys:

  • gwirfoddoli
  • hyfforddi
  • dehongli
  • cadwraeth

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys gwaith dichonoldeb ac arolwg er mwyn diogelu’r sefydliad at y dyfodol, hyrwyddo arwyddocâd hanesyddol Dyffryn Dyfrdwy a’i le yn Sir Ddinbych heddiw.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Penododd y prosiect bedwar o aelodau newydd o staff cyn cyfnod prysur iawn dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. 

Bu’r swyddi a ariannwyd drwy’r Gronfa yn hwb mewn sawl agwedd ar weithredu rhaglenni gan arwain at 1,100 o ymwelwyr ychwanegol (o gymharu â 2022) a phenodwyd pymtheg o wirfoddolwyr hefyd i fynd i’r afael â rhaglen weithredu mor helaeth.

Yn ogystal â hynny, mae’r swyddi Dehongli, Hyfforddi a’r Amgylchedd a ariannwyd drwy’r Gronfa wedi gwneud cynnydd mewn sawl elfen o’u rhaglenni gwaith rhagnodol, gan gynnwys, ymysg pethau eraill: 

  • Bron â gorffen hyfforddi’r adrannau presennol ac adolygu eu cymhwysedd.
  • Cynnal nifer o gyrsiau hyfforddiant, gan gynnwys Cymorth Cyntaf a Diogelwch Trac.
  • Meithrin cyswllt â phartneriaid yn yr AHNE gydag amryw brosiectau’n ymwneud â dehongli, yr amgylchedd a chadwraeth.
  • Ffurfiwyd cytundeb partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam a fydd nid yn unig yn ategu rhaglen waith prosiect y Gronfa Ffyniant Gyffredin ond hefyd yn creu cyfleoedd i’r Brifysgol a’r myfyrwyr wedi iddynt raddio.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro