Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Llwybrau

Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r prosiect nawr wedi’i gwblhau.
Trosolwg o’r prosiect
Bydd prosiect Llwybrau yn darparu cymorth i tua 420 o bobl ifanc bob blwyddyn academaidd yn Sir Ddinbych, i leihau'r risg o ymddieithrio oddi wrth addysg, darparu cymorth i ailymgysylltu ag addysg, neu i symud i waith neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11. Y prif nod yw mynd i’r afael ag un o’r pethau sy’n achosi tlodi hirdymor.
Mae Llwybrau yn cynnig dwy brif elfen i gefnogi pobl ifanc ddiamddiffyn:
- Swyddogion Ymgysylltu Addysg
- Cwnselwyr, a fydd yn cynnig gwasanaethau ychwanegol i dargedu iechyd meddwl, yn enwedig ymysg bechgyn
Diweddariad y prosiect
Crynodeb olaf y prosiect - mis Rhagfyr 2022 i fis Mawrth 2025
Roedd y prosiect Llwybrau’n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 16 oed sydd mewn perygl o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).
Cefnogodd 529 o unigolion, darparodd 251 o gymwysterau, a chrëwyd 109 o gyfleoedd gwirfoddoli er mwyn gwella iechyd meddwl, addysg a chyfleoedd bywyd.
Mawrth 2024
Soniwyd am rywfaint o weithgarwch y prosiectau Llwybrau’n ddiweddar mewn datganiadau i’r wasg gan Gyngor Sir Ddinbych. Darllenwch fwy: