Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Allgymorth Cymunedol y Cerddwyr (Gogledd Cymru)

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Arweinydd y Prosiect: Ramblers Cymru

Trosolwg o’r prosiect

Bydd Ramblers Cymru yn adeiladu ar lwyddiant prosiect Llwybrau Lles, gan ddod â cherdded a gwirfoddoli i gynulleidfa ehangach, a chyrraedd cymunedau gyda lefelau uchel o amddifadedd ac unigolion sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol i gerdded a’r awyr agored. Drwy ymgynghori a chydweithio bydd Ramblers Cymru yn datblygu cynllun pwrpasol ar gyfer pob cymuned, gan gynnwys y gymuned gyfan a phartneriaid lleol yn y gwaith.

Bydd Ramblers Cymru yn ymgysylltu â chymunedau ac yn grymuso pobl leol i ymfalchïo yn eu bröydd ac i fod yn fwy egnïol. Gan ddefnyddio llwybrau cerdded lleol fel catalydd, bydd Ramblers Cymru yn uwchsgilio gwirfoddolwyr er mwyn gwella llwybrau a chynyddu’r mynediad at fannau gwyrdd, yn ogystal â chreu a hyrwyddo llwybrau newydd, a fydd yn codi ymwybyddiaeth pobl o gyfleoedd cerdded a chymryd rhan lleol.

Gyda chymorth y gymuned bydd Ramblers Cymru yn archwilio’r rhwydwaith llwybrau presennol ac yn asesu’r angen a’r mynediad at lwybrau. Bydd Ramblers Cymru yn darparu hyfforddiant ar gyfer teithiau hunan-dywys, canfod eich ffordd a darllen map, a bydd ein Hyfforddiant Arwain Teithiau yn galluogi gwirfoddolwyr i ddarparu teithiau tywys. Mae Ramblers Cymru yn defnyddio diwrnodau gweithgareddau i ymgysylltu â chymunedau, sy’n cynnwys teithiau tywys ar themâu penodol a gwneud gwelliannau i lwybrau.

Diweddariad y prosiect

Mawrth 2024

Pan gychwynnodd y prosiect bu 158 o bobl yn cymryd rhan mewn gwaith ymgynghori a chynhaliwyd digwyddiad lansio ymhob cymuned. Defnyddiwyd y wybodaeth a gasglwyd yn sail ar gyfer y gweithgarwch a gynhaliwyd ers hynny a’r gwaith sydd yn yr arfaeth.

Archwiliwyd 55 cilometr o lwybrau gan gofnodi unrhyw broblemau, a gosodwyd peiriant cyfrif cerddwyr ymhob cymuned i gasglu data. Mae rhai o’r problemau bellach wedi’u datrys. Mae rhai eraill yn dal yn destun trafodaethau.

Cynhaliwyd saith o deithiau tywys cymunedol, gan gynnwys teithiau cerdded ar gyfer Plant Mewn Angen a thaith Mins Peis. Cymerodd 61 o bobl ran ynddynt. Bwriedir cynnal nifer o deithiau cerdded ym myd natur yn y misoedd nesaf gyda’n partneriaid (Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Clocaenog, Sir Ddinbych Egnïol a MIND Dyffryn Clwyd).

Mae prosiectau newydd gychwyn i feithrin cyswllt â phobl ifanc, gyda noswaith yng nghwmni Sgowtiaid Carrog yng Nghorwen. Bwriedir cynnal sesiynau eraill ag Ysgol Tremeirchion, Ysgol Bro Dyfrdwy ac Ysgol Santes Ffraid. Gwnaed cysylltiadau â Cheidwaid Ifanc yr  Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) gyda’r nod o gynnal digwyddiad ar y cyd yn yr hydref.

Cyflawnwyd gwaith clirio llwybrau gyda grŵp Eglwys y Coed yn Nhremeirchion er mwyn clirio rhan o’r llwybr yn Sodom na ellid mynd ar ei hyd a gweithio â’r grŵp cerdded yn Llandrillo i glirio llystyfiant o rai o’r camfeydd ger Maes Carafanau’r Felin. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt â thîm Hawliau Tramwy Cyngor Sir Ddinbych, tîm yr AHNE a pherchnogion tir ynglŷn â darnau eraill o waith a fydd yn dechrau ar ôl cael caniatâd gan yr holl gyrff a phobl sy’n berthnasol.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro