Grantiau ffermydd gwynt

Canfod gwybodaeth am y grantiau a’r arian sydd ar gael o brosiectau ffermydd gwynt. Mae nifer o gronfeydd ffermydd gwynt llai ar gael ledled y sir, cysylltwch â'r tîm datblygu cymunedol i gael rhagor o wybodaeth datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk.

Services and information

Gwynt y Mor (gwefan allanol)

Mae yna £19 miliwn o gronfa ar gael gan Fferm Melynoedd Gwynt Alltraeth Gwynt y Môr ar gyfer cymunedau o fewn ardaloedd arfordirol Conwy, Sir Ddinbych a Fflint.

Cronfa Gymunedol Estyniad Burbo Bank (gwefan allanol)

Mae DONG Energy wedi ymrwymo i Gronfa Gymunedol sydd â gwerth oddeutu £225,000 fesul blwyddyn ar gyfer cyfnod oes y prosiect.

Cronfa Mantais Gymunedol Fferm Wynt Clocaenog (gwefan allanol)

Bydd Fferm Wynt Clocaenog yn darparu cronfa mantais gymunedol o hyd at £768,000 y flwyddyn, yn fynegrifol, a fydd ar gael unwaith fydd y fferm wynt yn gwbl weithredol.

Cronfa Mantais Gymunedol Fferm Wynt Brenig (gwefan allanol)

Bydd Fferm Wynt Brenig yn darparu cronfa mantais gymunedol o hyd at £152,000 y flwyddyn, yn fynegrifol. Bydd y gronfa’n cael ei dosbarthu i gymunedau lleol a grwpiau ar gyfer dibenion amgylcheddol, economaidd-gymdeithasol ac addysgol.