Rownd 2 y Gronfa Adfywio Leol: Trosolwg

Rownd 2 y Gronfa Adfywio Leol
Cyhoeddwyd ail rownd y Gronfa Adfywio Leol ar 23 Mawrth 2022. Cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych ddau gynnig ar wahân i’r ail rownd a oedd yn berthnasol i hen etholaethau Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd. Trwy broses hollgynhwysol, cyfrannwyd y prosiectau a oedd wedi eu cynnwys yn y cynigion gan Aelodau, Aelodau Seneddol, Cynghorau Tref a Swyddogion ar draws Sir Ddinbych. Roedd y prosiectau cymwys yn gyflawnadwy, yn ddylanwadol ac yn cyflawni meini prawf Cronfa Adfywio Leol. Bu i ymgynghoriad pellach gyda Grwpiau Ardal Aelodau'r Cyngor ac Uwch Arweinyddiaeth arwain at y prosiectau terfynol yn y cynnig, a gymeradwywyd gan y Cabinet.
Ar ddydd Iau, 19 Ionawr, 2023 derbyniodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad fod y cais i hen etholaeth Gorllewin Clwyd wedi bod yn llwyddiannus o dan rownd 2 o Gronfa Adfywio Leol Llywodraeth Y DU. Mae Cronfa Adfywio Leol wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych yn dod i gyfanswm o £10.95m a bydd Rhuthun a’r cymunedau gwledig yn elwa ohono.
Rownd 2 Cronfa Adfywio Leol: Cynigion prosiect llwyddiannus