Croeso i'r drydedd newyddlen ar gyfer prosiectau Cronfa Adfywio Lleol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych. Mae'r newyddlen hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiectau sy'n cael eu hariannu drwy Gronfa Adfywio Lleol Llywodraeth y DU. Mae’r arian a sicrhawyd wedi’i ddyrannu ar gyfer y 7 prosiect llwyddiannus hyn yn unig ac nid oes modd eu trosglwyddo i brosiectau neu wasanaethau eraill. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch yr holl brosiectau ar gael ar wefan y Cyngor.
Dilynwch Gyngor Sir Dinbych ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y saith prosiect.
Promenâd Canolog a Pharth Cyhoeddus Canol Tref y Rhyl
Aeth y digwyddiad Ymgysylltu â'r Cyhoedd ar 9 Rhagfyr 2025 yn dda, a gadawyd y deunydd ymgysylltu yn Llyfrgell y Rhyl ac roedd ar gael ar-lein tan 5 Ionawr 2026. Cynhyrchwyd adroddiad ymgysylltu cryno a bydd yn cael ei rannu'n fuan iawn. Mae adroddiad ymgysylltu cryno wedi'i gynhyrchu a gellir ei weld ar-lein yma.
Mae dyluniadau cychwynnol wedi'u datblygu ac maent yn cael eu mireinio ar hyn o bryd i ymgorffori adborth a syniadau a gasglwyd o'r digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd. Gan fod y Cabinet wedi cytuno i'r prosiect symud ymlaen i'r cyfnod cyn-adeiladu, bydd gweithgareddau ymgysylltu pellach yn digwydd gyda busnesau a thrigolion canol y dref wrth i'r dyluniadau fynd rhagddynt. Ar ôl cyfnod y Pasg, byddwn yn dechrau ymgysylltu â busnesau lleol i drafod y cynllun. Bydd y sgyrsiau hyn yn archwilio sut mae danfoniadau, rheoli gwastraff, a gweithrediadau eraill yn cael eu trin, gyda'r nod o leihau'r aflonyddwch a lleihau effeithiau yn ystod y cyfnod adeiladu.
Parc Poced Porth y Rhyl
Mae tîm y prosiect yn disgwyl penderfyniad ar y cais cynllunio a'r cais Draenio Cynaliadwy yn fuan iawn. Byddwn yn hysbysebu'r contract dymchwel ac yn gwahodd contractwyr i gyflwyno eu cynigion unwaith y bydd y gwahanol ganiatâd wedi’i gael.
Er mwyn lleihau'r aflonyddwch, mae'r gwaith dymchwel yn cael ei gynllunio y tu allan i gyfnod prysur yr haf. Unwaith y bydd contractwr wedi'i benodi a'r amserlen wedi'i chadarnhau, byddwn yn rhannu'r manylion llawn, gan gynnwys pryd y bydd y gwaith yn dechrau a sut y bydd yn cael ei wneud.
Yn y cyfamser, mae cwmni arbenigol yn cael ei benodi i ddelio â'r problemau plâu y tu mewn i'r adeilad. Dangosodd archwiliadau diweddar fod y broblem yn fwy helaeth nag a ddisgwyliwyd, gyda llawer iawn o lanast y mae angen ei lanhau a'i drin yn ddiogel. Unwaith y cytunir ar y cynllun a'r amserlen ar gyfer y gwaith hwn, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion a busnesau cyfagos cyn i unrhyw beth ddechrau.
Hen Ysbyty Gogledd Cymru
Dechreuodd y Gwaith Galluogi ar y safle ym mis Tachwedd ac mae bellach wedi'i gwblhau. Roedd y cam hwn yn cynnwys cael gwared ac adleoli tomenni o rwbel ar y safle i hwyluso mynediad ar gyfer cam nesaf y gwaith. Mae llystyfiant o amgylch y safle hefyd wedi'i glirio i ganiatáu gwell arolygu.
Mae'r gwaith ar y mesurau Lliniaru Ecolegol yn mynd rhagddo'n dda, gyda dwy ysgubor ystlumod yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Mae'r rhain i fod i gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.
Stryd Fawr Prestatyn
Yn dilyn amrywiaeth o weithgareddau ymgynghori a gynhaliwyd yn Hydref 2025, amlygwyd problemau traffig ynghylch symudiadau traffig a thagfeydd fel pryder ochr yn ochr ag adborth ar welliannau i ymddangosiad cyffredinol y Stryd Fawr. Gallwch weld y dyluniad cysyniadol a'r adborth ymgynghori yma.
Gan ystyried yr adborth hwn, mae'r Cyngor yn archwilio cyflwyno system ddwyffordd ar Ffordd y Bont. Y bwriad yw gwella llif traffig ar gyfer cerbydau sy'n teithio dros y bont tuag at ganol y dref ac ar waelod y Stryd Fawr, lleihau tagfeydd ar ffyrdd cysylltu allweddol, a gwella mynediad i drigolion, siopwyr ac ymwelwyr. Cynhelir prawf i asesu a all gwneud Ffordd y Bont yn ddwyffordd hwyluso symudiad traffig a lleihau tagfeydd ar y strydoedd cyfagos. Ni fydd unrhyw benderfyniadau parhaol yn cael eu gwneud nes bod canlyniadau'r prawf yn hysbys.
Mae'r gwaith wedi parhau i wella dyluniad cyffredinol y Stryd Fawr gan ystyried y safbwyntiau a rannwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus pellach hefyd i gasglu barn ar y dyluniad manwl wedi'i ddiweddaru yn ddiweddarach yn y broses.
Mae gwybodaeth fanylach wedi'i nodi isod.
Prawf Traffig Ddwyffordd
Bydd y prawf yn dechrau ddydd Llun 13 Ebrill a bydd yn rhedeg am o leiaf dri mis o dan Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cerbydau'n gallu teithio i fyny ac i lawr Ffordd y Bont, a chaniateir i draffig droi i'r chwith o Ffordd Pendyffryn i Ffordd y Bont.
Bydd y cyfyngiad presennol ar droi i'r dde o Ffordd Pendyffryn yn parhau mewn grym, felly bydd cerbydau'n parhau i droi i'r dde yn Ffordd Penisardre fel arfer. Bydd marciau a chyfyngiadau ffordd unffordd presennol yn cael eu gorchuddio, a bydd unrhyw signalau traffig nad oes eu hangen yn ystod y treial yn cael eu cadw o’r neilltu.
Mae cwestiynau cyffredin am y prawf ar gael yn Llyfrgell Prestatyn, drwy Gyngor Tref Prestatyn a gellir eu gweld ar ein gwefan yma.
Bydd y prawf yn cael ei asesu i benderfynu a yw wedi bod yn llwyddiannus. Dyma rai cwestiynau allweddol:
- A yw traffig ar hyd y Stryd Fawr ac wrth agosáu at gylchfan Ffordd y Bont wedi'i leihau?
- A yw diogelwch cerddwyr wedi gwella yn yr ardal?
Ymgynghoriadau Cyhoeddus
Mae'r cam dylunio manwl wedi'i gynllunio ar gyfer mis Mehefin 2026. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd y dyluniadau ar gael i'w gweld yn Llyfrgell Prestatyn ac ar ein gwefan, a bydd holiadur ar-lein yn cael ei ddarparu i gasglu adborth.
Trefnir sesiwn galw heibio hefyd ar gyfer dechrau mis Mehefin 2026 (dyddiad a lleoliad i'w cadarnhau). Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i bobl weld y dyluniad manwl yn bersonol a gofyn unrhyw gwestiynau.
Bydd yr adborth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad yn helpu i lunio'r dyluniad terfynol, y mae'r tîm yn anelu at ei gwblhau erbyn diwedd Haf 2026.
Digwyddiad / Carreg Filltir
| Dyddiad | Digwyddiad / Carreg Filltir |
| Dydd Llun, 13 Ebrill 2026 |
Dechrau prawf traffig Ffordd y Bont, yn rhedeg am o leiaf 3 mis o dan Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro. |
| Mehefin 2026 |
Dechrau ymgynghori ar y dyluniad manwl gyda dyluniadau ar gael ar-lein ac yn Llyfrgell Prestatyn. |
| Diwedd Haf 2026 |
Dyddiad cwblhau targed ar gyfer y dyluniad terfynol ac wedi'i lywio gan adborth yr ymgynghoriad. |
Sylwch y gall dyddiadau newid, yn dibynnu ar gynnydd y tîm yn ystod cam dylunio manwl y prosiect. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl.
Parc Natur Morfa Prestatyn
Mae'r broses hanfodol o gaffael tir bellach wedi'i chwblhau, gan ddod â'r safle gwlyptir 30 erw cyfan o dan berchnogaeth a rheolaeth Cyngor Sir Dinbych. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Network Rail i gydlynu eu gwelliannau mynediad gyda'r Llwybr Natur. Er na fydd eu gwaith yn cyd-fynd â dyddiad cyflawni'r prosiect, mae Network Rail wedi cadarnhau y byddant yn darparu unrhyw welliannau mynediad dros dro angenrheidiol ar dir CSDd heb unrhyw gost i'r cynllun.
Mae cyfarfodydd rheolaidd hefyd yn digwydd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod ein cynigion yn cynnal mynediad iddynt ar gyfer clirio llystyfiant hanfodol ar hyd Cafn Prestatyn, gyda thri opsiwn posibl yn cael eu hasesu ar hyn o bryd. Yn ogystal, gwnaed penderfyniad i beidio â chynnwys maes parcio i ymwelwyr ger Lôn Gwaith Nwy oherwydd y mynediad cul a'r defnydd cynyddol o'r llwybr gan gerddwyr a beicwyr.
Mae cam nesaf y gwaith yn cynnwys cwblhau'r Dyluniadau Tirwedd a Pheirianneg a pharatoi'r Dogfennau Cynllunio. Byddwn hefyd yn gwneud cais am Drwydded Risg Llifogydd gan CNC, yn parhau â'r asesiad ecolegol, ac yn dechrau datblygu'r adroddiad lliniaru. Bydd ymgysylltu â Network Rail a budd-ddeiliaid eraill yn parhau i fynd rhagddo, a byddwn yn cymryd rhan yn y digwyddiad ymgynghori ynghylch Stryd Fawr Prestatyn sydd ar y gweill fel rhan o'n hymgysylltiad cymunedol parhaus.
Diolch i chi am eich diddordeb parhaus yn y Gronfa Adfywio Leol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych. Edrychwn ymlaen at rannu mwy o ddiweddariadau wrth i’r prosiectau hyn ddatblygu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu, mae croeso i chi gysylltu â ni ar corporateprogrammeoffice@denbighshire.gov.uk.