
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o fod wedi cadarnhau £19.97m o Rownd 3 Cyllid Llywodraeth y DU i gefnogi datblygiad 7 prosiect gyda’r bwriad o wella canol trefi a’r ardaloedd cyfagos yn hen etholaeth Dyffryn Clwyd.
Roedd y cynllun cyllid hwn ar agor i awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ynghlwm â themâu adfywio, treftadaeth neu gludiant.
Cefnogwyd y cynigion oedd wedi’u cynnwys ar gyfer hen etholaeth Dyffryn Clwyd gan gyn AS yr etholaeth ac aelodau etholedig lleol.
Pan fydd y cyllid wedi’i gadarnhau ac ar ôl sefydlu’r timau prosiect, bydd digwyddiad gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd yn cael ei drefnu i rannu gwybodaeth am y prosiectau gydag ymgynghoriad manwl pan fydd y prosiectau wedi’u datblygu ymhellach. Bydd digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo gan y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg leol yn nes at yr amser.
Rhestr lawn o brosiectau
Mae'r rhestr lawn o brosiectau i’w gweld isod.
Cysylltu â ni
Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Cronfa Adfywio Lleol’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.
Cynnal digwyddiad yn ein lleoliadau prosiect
Mae ein tudalen cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych yn cynnwys ffurflen ar-lein er mwyn rhannu manylion unrhyw ddigwyddiadau rydych chi’n eu trefnu. Wrth roi gwybod i’r Cyngor am eich digwyddiad, gallwn roi gwybod i chi a fydd gwaith ar unrhyw un o’n prosiectau yn debygol o effeithio arno.