Sipsiwn a Theithwyr: Cyngor i Dirfeddianwyr

Mae newidiadau i Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (gwefan allanol), yn golygu bod gwersylloedd diawdurdod yn awr yn cael eu trin o dan drosedd tresmasu ar dir heb ganiatâd.

Efallai y gall yr heddlu gymryd camau yn erbyn tresmaswyr ar eich tir os oes ganddynt un cerbyd neu fwy. Gallwch ddysgu mwy am yr hyn y gall yr heddlu ei wneud ar wefan Heddlu Gogledd Cymru (gwefan allanol).

Perchennog y tir sy’n gyfrifol am gymryd camau pan fydd gwersyll yn cael ei osod ar dir preifat neu dir trydydd parti. 

Allwn ni ond cymryd camau yn erbyn gwersylloedd ar dir y cyngor.