Sipsiwn a Theithwyr: Tresmasu ar dir heb ganiatâd / Gwersylloedd Diawdurdod

Mae newidiadau i Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 yn golygu bod gwersylloedd diawdurdod yn awr yn cael eu trin o dan drosedd tresmasu ar dir heb ganiatâd.

Os caiff gwersyll diawdurdod ei sefydlu ar dir yn ein meddiant ni, byddwn yn cymryd camau gorfodi. 

Ni allwn gymryd camau i symud gwersylloedd diawdurdod oddi ar dir preifat neu dir 3ydd parti. Darganfyddwch beth y gellir ei wneud os oes gwersyll diawdurdod ar dir preifat neu dir 3ydd parti.

Ni allwn symud gwersylloedd diawdurdod o dir ar unwaith. Rhaid i ni weithredu yn ôl deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol drwy:

  • ddangos fod y gwersyll wedi ei sefydlu ar dir heb ganiatâd
  • gan wneud ymholiadau ynghylch iechyd cyffredinol, lles ac addysg plant gan sicrhau y cydymffurfir yn llawn â Deddf Hawliau Dynol 1998
  • gan ddilyn gweithdrefn a amlinellwyd o ran darparu perchnogaeth tir a manylion y gwersyll anghyfreithlon a fydd yn ein galluogi i lwyddo i gael yr awdurdod angenrheidiol gan y llys er mwyn i breswylwyr adael y safle.  

Rhoi gwybod am wersyll diawdurdod ar dir y cyngor

Gallwch roi gwybod am wersyll diawdurdod ar dir y cyngor drwy ffonio ni ar 01824 706000.

Pa mor hir fydd hi'n cymryd i wersyll gael ei symud?

Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau bob achos unigol. Bydd angen i ni ystyried y materion lles a amlinellir uchod, yn ogystal â pha mor fuan y gellir cael dyddiad gwrandawiad llys.

A all y llys wrthod cymeradwyo gorchymyn i symud gwersyll?

Gall. Os oes rheswm na ellir ei osgoi dros adael i’r meddianwyr aros ar y safle, neu os yw’r llys yn credu ein bod wedi methu gwneud ymholiadau digonol ynghylch iechyd a lles cyffredinol y Meddianwyr. Mae’n rhaid i ni geisio canfod yr wybodaeth hon cyn mynd i’r llys.

Beth all yr heddlu ei wneud?

Gallwch ddysgu mwy am yr hyn y gall yr heddlu ei wneud ar wefan Heddlu Gogledd Cymru (gwefan allanol).