
Llwybr Cerdded Lles Dinbych
Rydym ni’n falch iawn o gael cyflwyno Llwybr Cerdded Lles newydd yn Ninbych - y cyntaf o'i fath yn y sir.
Mae tystiolaeth wyddonol yn dangos bod llwybrau lles yn rhoi hwb i iechyd meddwl, lles yn gyffredinol, hapusrwydd, iechyd corfforol a symudedd.
Mae gan y teithiau cerdded hunan-dywysedig seddi newydd wedi'u gwneud o ddeunyddiau lleol ecogyfeillgar. Mae'r seddi hyn yn cynnig lle i orffwys, ac yn eich annog chi i 'stopio a sgwrsio', meithrin cysylltiadau ag eraill a mynd i'r afael ag unigrwydd gan werthfawrogi'r amgylchedd o’ch cwmpas. Nod y fenter hon yw gwella profiad ymwelwyr yn Ninbych; tref farchnad fywiog, amrywiol a hanesyddol sydd wedi'i lleoli yng nghanol Sir Ddinbych.
Dylai'r llwybr annog pobl i ymfalchïo yn eu mannau gwyrdd, i wella eu dealltwriaeth am fioamrywiaeth a gwerth cadwraeth yr ardal gan sicrhau hygyrchedd i bawb.
Cewch gyfle i grwydro ar eich cyflymder eich hun
Mae ein llwybr cerdded yn hyblyg ac wedi'i gynllunio ar gyfer eich mwynhad chi. Pa un a ydych chi'n bwriadu mynd am dro hamddenol neu’n awyddus i fynd ar daith hirach, gallwch chi gerdded cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch.
Ewch am dro heddychlon ar hyd y llwybr ac ymlacio’n llwyr. Caiff cerddwyr ryddid i gerdded a phrofi amgylchedd a chymuned leol Tref Dinbych.
Map
Mae'r map isod yn dangos y llwybr cerdded a awgrymir a'r lleoliadau i eistedd ar hyd y ffordd:
Lleoliadau i eistedd
Mae'r lleoliad oddi ar Gylchfan Myddelton, drws nesaf i Y Siop, Dinbych, LL16 4AA.
What3words: after.stews.trackers (gwefan allanol)
Wrth i chi eistedd yma, cymerwch eiliad i fwynhau'r ddôl blodau gwyllt o'ch blaen, arddangosfa fywiog o liw a bywyd yng nghanol Dinbych.
Mae'r ardal hon yn cynnal 43 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt brodorol, pob un o darddiad lleol. Mae'r cymysgedd wedi datblygu'n naturiol dros amser, gyda rhywogaethau'n ymsefydlu heb ddefnyddio cymysgeddau hadau masnachol.
Yn gynnar yn y gwanwyn, chwiliwch am y Llygad Ebrill melyn llachar a lelog meddal Blodau'r Gog. Wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, mae'r gylchfan yn troi'n fôr o aur, pinc a phiws, gyda rhywogaethau fel Blodau Ymenyn, Llygad Llo Mawr, Meillion Coch, Sicori, a Chlust-y-llygoden euraid oren llachar yn sefyll allan. Mae’r Feddyges Las, y Rhwyddlwyn a Milddail yn ychwanegu ychydig o fioled a glas ymhlith y glaswelltau, tra bod Cennin Pedr wedi'u plannu gerllaw yn cynnig fflach o liw melyn cyfarwydd a chroesawgar ddiwedd y gaeaf.
Nid yn unig y mae’r ardal hon yn hardd, mae’n llawn bywyd. Mae'r blodau gwyllt yn denu gwenyn, gloÿnnod byw a pheillwyr eraill drwy gydol yr haf. Caiff yr holl blanhigion eu rheoli heb gemegau a chaiff y safle ei dorri ar adegau allweddol o'r flwyddyn i ganiatáu i hadau ddisgyn yn naturiol – gan helpu'r ddôl i adfywio a ffynnu flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae Cylchfan Myddleton yn un o nifer o ddolydd ar draws Dinbych sy'n ffurfio coridor peillio drwy'r dref. Mae blodau gwyllt ar y safleoedd hyn yn cyrraedd drwy ddulliau naturiol, ac mae hadau'n cael eu casglu'n ofalus o ddolydd sefydledig fel yr un hon i wella eraill gerllaw. Gyda'i gilydd, mae'r mannau hyn yn creu cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt ac yn helpu i ailgysylltu pobl â natur mewn ardaloedd poblog.
Y lleoliad yw Crud-Y-Castell, Dinbych, LL16 4PQ.
What3words: dairy.cubic.shampoo (gwefan allanol)
Wrth i chi eistedd yma yng Nghrud-Y-Castell, rydych chi wedi'ch amgylchynu gan un o ddolydd trefol tawel a ffyniannus Dinbych - poced naturiol o fywyd yng nghanol yr ystâd. Mae'r safle hwn yn cynnal dros 30 o rywogaethau o flodau gwyllt brodorol, y cyflwynwyd llawer ohonynt fel plygiau o blanhigion a dyfwyd o hadau a gasglwyd yng nghylchfan Myddleton. Dros amser, mae'r ddôl wedi dod yn fwy amrywiol, gyda rhywogaethau newydd yn ymsefydlu'n naturiol.
Yn ei ganol saif derwen Seisnig aeddfed – tirnod byw y mae ei mes wedi cael eu casglu a'u tyfu yn ein planhigfa goed o darddiad lleol yn Llanelwy. Mae'r coed ifanc a godwyd o'r dderwen hon bellach wedi'u plannu yng ngwarchodfa natur Green Gates, gan gysylltu'r safle canol tref hwn â gwaith adfer coetir ehangach yn Sir Ddinbych.
O ddechrau'r gwanwyn ymlaen, mae'r ddôl yn dod yn fyw gyda lliw. Chwiliwch am lelog golau Blodau’r Gog, pinc dwfn y Gludlys Coch a Bysedd y Cŵn, a glas y gors yn y Maes. Mae’r Blodau Ymenyn, Llygad Llo Mawr, y Feddyges Las, a Llys y Llwynog yn dod â chymysgedd bywiog o felyn, gwyn, fioled, a phinc wrth i'r tymhorau ddatblygu. Gyda'i gilydd, maen nhw'n creu cynefin croesawgar i wenyn, gloÿnnod byw a phryfed eraill, gan gynnig ennyd o dawelwch i bobl sy'n mynd heibio.
Mae Crud-Y-Castell yn rhan o rwydwaith cynyddol o ddolydd ar draws Dinbych sy'n ffurfio coridor peillio drwy'r dref. Mae blodau gwyllt yn y safleoedd hyn yn ymsefydlu'n naturiol, a defnyddir hadau a gesglir ohonynt i wella dolydd lleol eraill. Mae'r mannau hyn yn hanfodol i fywyd gwyllt ac yn helpu i ddod â natur i leoedd bob dydd – gan gysylltu pobl, peillwyr a phlanhigion mewn tirwedd a rennir.
Y lleoliad yw hanner ffordd o amgylch y Llwybr Teithio Llesol newydd, ger Ffordd Ystrad, Dinbych.
What3words: dunk.testing.headrest (gwefan allanol)
Wrth i chi orffwys yma, rydych chi'n eistedd wrth ymyl un o hafanau natur mwyaf llesol Dinbych - dôl blodau gwyllt sy'n tyfu ar y lan wrth ymyl y llwybr teithio llesol.
Mae'r safle hwn bellach yn cynnal 41 o rywogaethau o flodau gwyllt brodorol, a chyflwynwyd llawer ohonynt fel plygiau o blanhigion a dyfwyd o hadau a gasglwyd mewn dau o ddolydd lleol eraill Dinbych: Crud-Y-Castell a Chylchfan Myddleton. Dros amser, mae amrywiaeth y safle hwn yn parhau i gynyddu, gyda rhywogaethau newydd yn cyrraedd ac yn ymgartrefu'n naturiol.
O'r gwanwyn hyd at yr hydref, daw'r llethr yn goridor o liw. Chwiliwch am Glust-y-llygoden euraid oren llachar, Meillion Coch a’r Feddyges Las o liwiau piws dwfn, a’r Rhwyddlwyn glas cywrain. Mae melyn meddal y Blodau Menyn a Dant y Llew yn ychwanegu mwy o ddisgleirdeb, tra bod rhywogaethau fel Milddail a Garlleg y Berth yn cynnig arlliwiau cynnil a gweadau amrywiol.
Mae'r ddôl hon ar fymryn o lethr yn chwarae rhan bwysig i fywyd gwyllt lleol. Mae'r amrywiaeth o flodau gwyllt yn cynnal gwenyn, gloÿnnod byw a pheillwyr eraill, tra hefyd yn darparu bwyd a lloches i adar a phryfed sy'n symud drwy'r ardal. Wedi'i reoli heb gemegau a'i dorri ar yr amser iawn bob blwyddyn, mae'r ddôl yn adfywio'n naturiol, gan ddod yn gryfach gyda phob tymor.
Mae Teithio Llesol Dinbych yn rhan o rwydwaith cysylltiedig o ddolydd ar draws y dref sydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio coridor peillio. Nid yw'r mannau hyn yn cael eu hau â chymysgeddau masnachol – mae'r blodau gwyllt yn cyrraedd drwy ddulliau naturiol, a defnyddir hadau a gesglir o safleoedd sefydledig i wella eraill. Gyda'i gilydd, maen nhw'n creu cynefin hanfodol i fywyd gwyllt ac yn dod â natur yn agosach at bobl, hyd yn oed yn y lleoedd mwyaf annisgwyl.
Y lleoliad yw cornel Ffordd Rhuthun a Llys y Faner, Dinbych, LL16 3HD (gyferbyn â Dolwen).
What3words: brilliant.primary.glades (gwefan allanol)
Wrth i chi eistedd yma ar gornel Cysgodfa, wedi'ch amgylchynu gan sŵn traffig a bwrlwm bywyd bob dydd, efallai nad yw'n ymddangos fel lle i ddod o hyd i fyd natur – ond edrychwch ychydig yn agosach, a byddwch chi'n dechrau ei weld.
Ychydig y tu ôl i chi mae helygen wylofus aeddfed, ei changhennau hir yn ffurfio llen werdd sy'n symud ac yn siglo yn y gwynt. Ac os ydych chi'n ddigon chwilfrydig i ddilyn y ffordd ychydig ymhellach – heibio i Ddolwen – fe ddewch chi at lwybr troed, porth i un o goridorau gwyrdd mwyaf Dinbych.
Wrth fynedfa’r llwybr, y tu ôl i ddarn o ffens haearn tal, saif Aethnen Ddu brin a thrawiadol – un o’r coed pren caled brodorol prinnaf yn Ewrop. Mae gan y goeden benodol hon rôl arbennig yn stori adfer Dinbych: mae toriadau a gymerwyd ohoni yn cael eu tyfu ym mhlanhigfa Greengates i ddiogelu'r rhywogaeth a phlannu Aethnenni Duon newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Camwch ar y llwybr troed ac fe welwch eich bod chi yn un o ddolydd trefol Dinbych. Mae'r llwybr troed yn arwain drwy dri o ddolydd blodau gwyllt Dinbych – pob un yn fyw gyda lliw, peillwyr, a chân adar drwy gydol y flwyddyn. Mae'r dolydd hyn yn rhan o goridor peillio mwy sy'n arwain o Gysgodfa, i'r Maes, Dalar Wen ac yn gorffen ym Mharc Alafowlia. Mae'r coridor yn darparu cynefin hanfodol i wenyn, gloÿnnod byw a bywyd gwyllt arall ac yn galluogi iddynt deithio’n ddiogel ar draws rhan fawr o'r dref.
Mae'r holl ddolydd blodau gwyllt yn Ninbych wedi'u creu gan ddefnyddio hadau a gasglwyd o safleoedd lleol, gyda rhywogaethau'n cyrraedd yn naturiol dros amser. Ni ddefnyddir unrhyw gymysgeddau masnachol, ac mae pob safle'n cael ei reoli'n ofalus i gefnogi bioamrywiaeth ac adfywio. Gyda'i gilydd, maent yn ffurfio edau fyw o natur sy'n troelli drwy'r dref - ac mae'r fainc hon, wedi'i chuddio ar gornel brysur, yn ddechrau un daith o'r fath.
Y lleoliad yw cornel Ffordd Rhuthun a Ffordd Ystrad, Dinbych, LL16 3HB.
What3words: conspired.bucket.flap (gwefan allanol)
Wrth i chi eistedd yma ar Ffordd Ystrad, mae’n debyg na fyddech chi'n disgwyl dod o hyd i lawer o natur - dim ond darn bach o laswellt, wal gerrig, a bwrlwm y stryd. Ond os byddwch chi'n oedi am eiliad ac yn edrych yn ofalus, mae gan y gornel dawel hon ei harddwch cynnil ei hun.
Y tu ôl i chi, yn hongian dros y wal, mae canghennau coeden geirios a chriafolen, yn ymestyn allan o ardd gyfagos i gysgodi'r fainc isod. Yn y gwanwyn a'r haf, maen nhw'n cynnig blodau, aeron a goleuni brith - ac atgof o sut mae natur yn llifo rhwng mannau preifat a chyhoeddus.
O dan eich traed, mae’r glaswellt yn cael ei gadw'n isel, ond mae'n dal i gynnal bywyd: mae clytiau o feillion gwyn, dail llwynhidydd, a dant y llew yn cynnig neithdar i wenyn a gloÿnnod byw. Mae'r glaswellt byrrach hefyd yn bwysig i infertebratau sy'n nythu ar y ddaear, fel gwenyn turio, sy'n aml yn mynd heb i neb sylwi arnynt ond sy'n chwarae rhan hanfodol o ran peillio.
Yr hyn sydd fwyaf arbennig am y safle hwn, fodd bynnag, yw'r hyn sydd wedi'i ysgrifennu ar draws y wal gerrig ei hun. Mae'r cen melyn llachar y gallwch ei weld yn tyfu ar y garreg yn perthyn i'r cen oren cyffredin - grŵp o gennau sy'n adnabyddus am ffynnu mewn ardaloedd â lefelau ysgafn a chymedrol o nitrogen yn yr awyr. Mae cennau yn sensitif i lygredd aer ac fe'u defnyddir yn eang fel dangosyddion o ansawdd aer.
Mae cennau yn ffurfiau bywyd hynod ddiddorol: nid un organeb, ond dau mewn partneriaeth (weithiau hyd at 5!) — ffwng ac alga (neu weithiau cyanobacteria neu furum!) yn byw gyda'i gilydd yn symbiotig. Mae'r ffwng yn darparu strwythur ac amddiffyniad, tra bod yr alga yn cynhyrchu bwyd drwy ffotosynthesis.
Efallai nad yw'r fainc hon yn eistedd mewn dôl blodau gwyllt, ond mae'n dal i fod yn rhan o rwydwaith natur ehangach Dinbych. Mae pob man gwyrdd - o ddolydd i waliau mwsogl - yn chwarae rhan wrth gefnogi bioamrywiaeth leol. Gyda'i gilydd, maent yn ffurfio clytwaith o gynefinoedd ar gyfer adar, pryfed a phobl fel ei gilydd, gan helpu natur i blethu ei ffordd drwy'r dref.
Y lleoliad yw cornel Ffordd Rhuthun a Threwen, Dinbych.
What3words: holds.dissolves.part (gwefan allanol)
Wrth i chi eistedd yma, mae gwely o flodau lluosflwydd melyn, glas a choch o’ch blaen, wedi'u plannu am liw drwy gydol y flwyddyn, mewn amrywiaeth o siapiau a gweadau.
Y blodau mwyaf trawiadol yn yr haf yw'r rhosod safonol coch Invincible a'r rhosod patio coch Sweet Dream a brynwyd gan dyfwr rhosod yn Swydd Gaer, a'r alliums Purple Sensation a'r alliums Sphaerocephalon. Mae llawer o blanhigion wedi'u cyflenwi gan y ganolfan arddio leol ond mae'r rhan fwyaf o'r planhigion bellach yn cael eu tyfu gan wirfoddolwyr Dinbych yn Blodeuo neu wedi'u rhoi gan drigolion lleol - fel y blodau haul lluosflwydd a blynyddol, marchalan a blodyn pigwrn blewog melyn, tafod yr ehedydd, clych y môr a phig-yr-aran glas, y blodyn tisian coch a'r perlysiau, ffenigl, cennin syfi a phenrhudd yr ymylon. Mae'r holl blanhigion yn cael eu tyfu'n organig ac maent yn fagnet i wenyn a gloÿnnod byw.
Mae briallu amryliw a mahonia dail celynnog bytholwyrdd yn darparu lliw yn y gaeaf, tra bod bylbiau, briallu brodorol a chrafanc yr arth yn blodeuo yn y gwanwyn. Mae n’ad fi’n angof yn cael eu tyfu i gefnogi Dinbych Gyfeillgar i Ddementia. Tu ôl i'r fainc gallwch weld llu o flodau gwyllt a dyfwyd gan wirfoddolwyr o hadau a roddwyd gan yr elusen 'Go Wild', llygad llo mawr, bysedd y cŵn a phengaled, a hefyd clychau'r gog. Os edrychwch yn y coed, fe welwch flychau adar a gwestai pryfed.
Mae Trewen yn cael ei chynnal yn llwyr gan wirfoddolwyr Dinbych yn Blodeuo. Cafodd ei chynnwys fel rhan o'r llwybr beirniadu pan ddyfarnodd beirniaid Cymru yn ei Blodau 4 gwobr Aur yn olynol a chafodd ei chanmol am ei safon uchel o arddwriaeth.
Tudalennau cysylltiedig
Gwefannau cysylltiedig
Mind Dyffryn Clwyd (gwefan allanol)