Trosglwyddo Ased Cymunedol: Neuadd y Dref Dinbych

Neuadd y Dref Dinbych


Mae Cyngor Sir Ddinbych yn symud ymlaen â phroses Trosglwyddo Ased Cymunedol ar gyfer Neuadd y Dref Dinbych, gan edrych ar gyfleoedd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr adeilad wrth gynyddu ei werth i’r gymuned leol.

Mae’r broses yn symud i’r cam nesaf bellach, a gwahoddir Datganiadau o Ddiddordeb gan grwpiau cymunedol, sefydliadau a phartïon eraill â diddordeb. Disgwylir i’r cam hwn agor ar 1 Gorffennaf a bydd yn rhedeg tan 26 Awst. Sylwch mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno unrhyw gwestiynau am y broses hon yw 25 Awst.

Bydd Neuadd y Dref Dinbych yn parhau i weithredu fel arfer trwy gydol y broses hon, ac ni fydd unrhyw newid i unrhyw ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu eisoes, nac i drefniadau defnyddwyr.

Ar y dudalen hon, mae gwybodaeth allweddol i gefnogi eich diddordeb, gan gynnwys Polisi Trosglwyddo Ased Cymunedol y Cyngor, y ffurflen Datgan Diddordeb a Phecyn Eiddo Neuadd y Dref Dinbych.

Os hoffech chi wybod mwy, neu oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Rheoli Asedau ar: assetmanagement@denbighshire.gov.uk.

Cwestiynau Cyffredin

Cyffredinol

Beth a gaiff ei gynnwys yn y trosglwyddiad ased?

Bydd yr adeilad a’r maes parcio sydd wedi ei leoli yn union y tu ôl, fel y diffinnir yn y pecyn eiddo, yn cael eu trosglwyddo.

A oes yna unrhyw gyfyngiadau ynglŷn â sut y gellir defnyddio’r adeilad?

Oes, mae’n rhaid i’r defnydd gyd-fynd â rheoliadau cynllunio, unrhyw amodau prydlesu a disgwyliadau’r Cyngor ar gyfer budd cymunedol. Gall ystyriaethau treftadaeth hefyd fod yn berthnasol.

Beth yw cyflwr yr adeilad ar hyn o bryd?

Mae’r adeilad yn weithredol ond fe allai fod angen gwaith cynnal a chadw parhaus a buddsoddiad posibl. Bydd y wybodaeth sydd ar gael am y cyflwr yn cael ei rannu gyda phartïon o ddiddordeb.

A oes yna arolygon ar gael?

Bydd unrhyw arolygon neu adroddiadau ar gyflwr sy’n bodoli ac yn cael eu cadw gan y Cyngor yn dod ar gael pan fo hynny’n briodol. Mae disgwyl i ymgeiswyr ymgymryd â’u diwydrwydd dyladwy eu hunain.

A yw’r adeilad wedi ei restru neu mewn ardal gadwraeth?

Ydi. Mae Neuadd y Dref Dinbych yn adeilad rhestredig ac mae’n ffurfio rhan o ganol tref hanesyddol Dinbych. O ganlyniad caiff yr adeilad ei ddiogelu gan ddeddfwriaeth treftadaeth. Bydd angen i unrhyw addasiadau, gwaith atgyweirio neu newid defnydd barchu cymeriad hanesyddol yr adeilad ac fe allai fod angen Caniatâd Adeilad Rhestredig a/neu ganiatâd cynllunio. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o’r cyfrifoldebau hyn o fewn eu cynigion.

Beth yw’r costau cynnal ar hyn o bryd?

Bydd y Cyngor yn darparu’r wybodaeth sydd ar gael ar gostau cynnal cyfredol a hanesyddol i gefnogi ymgeiswyr, gan gynnwys ffigurau dangosol ar gyfer cyfleustodau, cynnal a chadw a threuliau gweithredol eraill.

Fodd bynnag dylai ymgeiswyr nodi y gall y costau hyn newid yn dibynnu ar sut y caiff yr adeilad ei ddefnyddio a’i reoli. Felly cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw i fodloni eu hunain ynglŷn â chost lawn gweithredu’r adeilad ac i ymgymryd â’u hasesiadau eu hunain fel rhan o ddatblygu cynnig cynaliadwy.

A yw’r adeilad yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd?

Ydi, mae Neuadd y Dref Dinbych yn llwyr weithredol ar hyn o bryd ac yn cael ei ddefnyddio. Bydd manylion pellach ynglŷn â sut y caiff yr adeilad ei ddefnyddio, gan gynnwys unrhyw weithgareddau neu drefniadau rheolaidd, yn cael eu rhannu gydag ymgeiswyr.

Efallai y bydd angen darparu ar gyfer unrhyw ddefnydd neu ymrwymiadau presennol neu efallai bydd angen iddynt gael eu rheoli’n ofalus fel rhan o’r cynigion yn y dyfodol, a dylai ymgeiswyr ystyried sut y byddai eu cynlluniau yn cyd-fynd neu’n trosglwyddo o weithrediadau presennol.

Yn ôl i'r brig

Y Broses Datgan Diddordeb

Beth ddylai gael ei gynnwys wrth gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb?

Mae’n rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a gaiff ei darparu yn llawn a’i chyflwyno cyn y dyddiad cau a nodir. Wrth gwblhau’r ffurflen bydd angen i ymgeiswyr amlinellu:

  • Eu sefydliad, gan gynnwys trefniadau llywodraethu
  • Y defnydd arfaethedig o’r adeilad
  • Y buddion disgwyliedig ar gyfer y gymuned
  • Tystiolaeth gychwynnol o hyfywedd ariannol
  • Tystiolaeth o angen lleol a/neu gefnogaeth gymunedol

Mae’n bosibl na fydd ffurflenni nad ydynt wedi eu cwblhau, neu’r rhai a gaiff eu derbyn ar ôl y dyddiad cau, yn cael eu hystyried.

Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yw 26 Awst. Mae’n bosibl na fydd ffurflenni a gyflwynir yn hwyr yn cael eu hystyried.

Sut y dylai Datganiadau o Ddiddordeb gael eu cyflwyno?

Mae’n rhaid i Ddatganiadau o Ddiddordeb gael eu cyflwyno drwy lenwi’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a ddarperir yn llawn a’i hanfon drwy e-bost at assetmanagement@denbighshire.gov.uk erbyn 26 Awst fan bellaf. Noder - y dyddiad cau ar gyfer cwestiynau yw 25 Awst.

Mae’n bosibl na fydd datganiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn, neu na chaiff eu cyflwyno gan ddefnyddio’r ffurflen swyddogol, yn cael eu hystyried.

A oes yna dempled ar gael?

Oes. Caiff ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ei darparu fel rhan o bolisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor ac mae’n rhaid i’r ffurflen gael ei defnyddio ar gyfer pob datganiad a gyflwynir.

Os yw cais yn symud yn ei flaen y tu hwnt i’r cam Datganiad o Ddiddordeb, bydd gofyn i ymgeiswyr a gaiff eu cynnwys ar y rhestr fer gwblhau ffurflen achos busnes mwy manwl i gefnogi’r cam nesaf yn y broses.

A oes modd i ymgeiswyr ofyn cwestiynau cyn cyflwyno?

Oes, caiff ymgeiswyr eu hannog i geisio cael eglurhad yn ystod cyfnod y Datganiad o Ddiddordeb.

A fydd ymweliadau safle ar gael?

Bydd, gellir trefnu ymweliadau safle i gefnogi ymgeiswyr i ddatblygu cynigion ar sail gwybodaeth.

Dylid gwneud ceisiadau am ymweliadau safle drwy anfon e-bost at assetmanagement@denbighshire.gov.uk.

A oes yna gefnogaeth ar gael?

Gellir gwneud cais am gyngor ac arweiniad drwy anfon e-bost at assetmanagement@denbighshire.gov.uk, a bydd y Cyngor yn cynorthwyo ymgeiswyr cyn belled ag y mae’n rhesymol bosibl.

Dylai ymgeiswyr nodi tra bo cefnogaeth ar gael maent yn parhau’n gyfrifol am ddatblygu eu cynigion eu hunain a sicrhau fod yr hyn maent yn ei gyflwyno yn gadarn ac yn gynaliadwy.

Yn ôl i'r brig

Asesiad a Gwneud Penderfyniadau

Sut fydd Datganiadau o Ddiddordeb yn cael eu gwerthuso?

Bydd Datganiadau o Ddiddordeb yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf gan gynnwys:

  • Budd cymunedol
  • Ymarferoldeb a chyflawnadwyedd
  • Cynaliadwyedd ariannol
  • Capasiti sefydliadol

A fydd cynigion ariannol yn cael eu hystyried ar y cam hwn?

Ar gam y Datganiad o Ddiddordeb bydd y ffocws ar werth cymunedol a hyfywedd yn hytrach nac enillion ariannol yn unig.

Pa mor bwysig yw budd cymunedol?

Mae budd cymunedol yn ffactor allweddol a bydd yn ystyriaeth elfennol yn yr asesiad.

Pwy sy'n gwneud y penderfyniad?

Bydd swyddogion y Cyngor yn cynnal yr asesiad gyda phenderfyniadau’n cael eu cymeradwyo drwy brosesau llywodraethu priodol.

Pryd fydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu?

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu yn dilyn cwblhau’r broses werthuso, yn unol ag amserlenni priodol.

A fydd adborth yn cael ei ddarparu?

Bydd, fe all adborth gael ei ddarparu i helpu sefydliadau i ddeall y canlyniad.

Yn ôl i'r brig

Ystyriaethau ariannol

A oes yna gyfleoedd cyllido ar gael?

Bydd disgwyl i ymgeiswyr nodi eu cyllid eu hunain, er y gall y Cyngor gyfeirio at ffynonellau posibl.

A oes yna gefnogaeth ariannol ar gael gan y Cyngor?

Nid oes sicrwydd o gyllid uniongyrchol; fodd bynnag fe all cefnogaeth gael ei darparu drwy gyngor neu hwyluso.

Pa lefel o fanylion ariannol sydd ei angen ar gam y Datganiad o Ddiddordeb?

Dim ond amlinelliad o hyfywedd ariannol sydd ei angen i gychwyn. Bydd angen cynllunio ariannol mwy manwl os yw’n mynd ymlaen i gam yr achos busnes.

A fydd angen cynllun busnes yn ddiweddarach?

Bydd, bydd angen i ymgeiswyr a gaiff eu cynnwys ar y rhestr fer gyflwyno cynllun busnes manwl.

Yn ôl i'r brig

Y Gyfraith a Llywodraethu

Pa ffurf o ddeiliadaeth sy’n cael ei gynnig?

Bydd hyn yn cael ei ddiffinio yn y camau hwyrach ac fe allai gynnwys opsiynau lesddaliad neu rydd-ddaliad yn dibynnu ar y cynnig.

A fydd yna amodau cyfreithiol ynghlwm â hyn?

Bydd, fe fydd cytundebau cyfreithiol yn cynnwys amodau i ddiogelu defnydd cymunedol a buddiannau’r Cyngor.

A fydd yna ddarpariaethau adfachu?

Mewn rhai achosion fe all darpariaethau gael eu cynnwys i ddiogelu gwerth cyhoeddus os caiff yr ased ei werthu’n ddiweddarach neu ei ddefnyddio’n wahanol.

A oes yna gyfyngiadau ar ddefnydd neu werthiant yn y dyfodol?

Oes, mae cyfyngiadau yn debygol o sicrhau fod yr ased yn parhau i fod o fudd i’r gymuned.

Pa lywodraethu sydd ei angen?

Mae’n rhaid i sefydliadau ddangos llywodraethu priodol, tryloywder ac atebolrwydd.

Yn ôl i'r brig

Effaith a Defnydd Cymunedol

Pa lefel o ymgysylltiad cymunedol a ddisgwylir?

Dylai ymgeiswyr ddangos ymgysylltiad ystyrlon a thystiolaeth o gefnogaeth leol.

Sut y dylid dangos cefnogaeth gymunedol?

Trwy ymgynghoriad, llythyrau o gefnogaeth, arolygon neu dystiolaeth o’r galw.

Pa ddefnydd sy’n cael ei annog?

Mae defnydd sy’n hybu lles cymunedol, gweithgarwch diwylliannol, cymdeithasol neu economaidd yn cael ei annog.

A oes angen mynediad i’r cyhoedd?

Oes. Mae Neuadd y Dref Dinbych yn adeilad cymunedol ac mae disgwyl i gynigion gadw a chefnogi ei rôl fel ased cymunedol.

Dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd eu cynlluniau yn cynnal neu’n gwella mynediad cyhoeddus priodol a sicrhau fod yr adeilad yn parhau i wasanaethu’r gymuned leol.

A yw gweithgareddau masnachol yn gallu cael eu cynnwys?

Ydi, lle maent yn cefnogi cynaliadwyedd ariannol a lle nad ydynt yn gwrthdaro gydag amcanion cymunedol.

Yn ôl i'r brig

Ystyriaethau Gweithredol

Pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ar ôl trosglwyddo?

Bydd y sefydliad llwyddiannus yn gyfrifol am yr holl atgyweiriadau, cynnal a chadw a rheolaeth barhaus.

A oes yna rwymedigaethau?

Oes, bydd y cyfrifoldeb am yr adeilad yn trosglwyddo i’r sefydliad, gan gynnwys y risgiau cysylltiedig.

Pa gyfleustodau sy’n bodoli?

Bydd gwybodaeth sylfaenol yn cael ei darparu, ond dylai ymgeiswyr wirio’r holl fanylion yn annibynnol.

A fydd staff yn trosglwyddo (Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth)?

Ar y cam hwn ni ddylid gwneud unrhyw ragdybiaeth yn ymwneud â throsglwyddo staff. Bydd ystyriaethau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth yn dibynnu ar natur y trefniadau presennol a manylion unrhyw fodel cyflawni gwasanaeth arfaethedig.

Pan fo ceisiadau yn mynd rhagddynt bydd hyn yn cael ei archwilio mewn mwy o fanylder fel rhan o’r cam achos busnes, a bydd unrhyw oblygiadau yn cael eu trafod gydag ymgeiswyr ar y rhestr fer maes o law.

Yn ôl i'r brig

Y Camau Nesaf

Beth fydd yn digwydd ar ôl Datganiad o Ddiddordeb?

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i ddatblygu cynnig neu achos busnes manwl.

A fydd cynigion yn cael eu mireinio?

Bydd, fe all ymgeiswyr gael cyfleoedd i ddatblygu a mireinio’r cynigion gyda mewnbwn y Cyngor.

Beth yw'r amserlenni?

Bydd cam y Datganiad o Ddiddordeb yn para am gyfnod o 8 wythnos, o 1 Gorffennaf hyd at 26 Awst. Mae’n rhaid i’r holl Ddatganiadau o Ddiddordeb gael eu cyflwyno erbyn y dyddiad cau.

Yn dilyn y cam hwn bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynd ymlaen i’r cam nesaf, a fydd yn cynnwys datblygu achos busnes fwy manwl.

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol, tra bo cerrig milltir allweddol yn cael eu gosod, fe all y broses o Drosglwyddo Ased Cymunedol yn gyffredinol gymryd sawl mis i’w gwblhau, yn dibynnu ar gymhlethdod cynigion a’r gymeradwyaeth sydd ei hangen.

A oes cefnogaeth ar gael yn ystod y camau diweddarach?

Fe all cyngor ac arweiniad barhau, er bod ymgeiswyr yn parhau yn gyfrifol am eu cynigion.

Yn ôl i'r brig

Risgiau a Chyfrifoldebau

Beth yw’r risgiau o ymgymryd â’r adeilad?

Mae’r risgiau yn cynnwys cynaliadwyedd ariannol, rhwymedigaethau cynnal a chadw a gofynion cydymffurfedd.

Beth sy’n digwydd os yw’r prosiect yn methu?

Gall cytundebau cyfreithiol gynnwys darpariaethau i ddiogelu’r ased, gan gynnwys y posibilrwydd o’i ddychwelyd i’r Cyngor.

Pa ddiwydrwydd dyladwy a ddisgwylir?

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ymgymryd ag asesiadau ariannol, cyfreithiol a thechnegol priodol cyn symud ymlaen.

Yn ôl i'r brig

Cysylltu

Gyda phwy y gallaf gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi ymholiad, cysylltwch â’r Cyngor drwy anfon e-bost at assetmanagement@denbighshire.gov.uk.

A oes yna ddyddiad cau ar gyfer cwestiynau?

Oes. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cwestiynau yw 25 Awst.

A fydd atebion yn cael eu rhannu?

Pan fo’n briodol gall ymatebion gael eu rhannu gyda’r holl ymgeiswyr i sicrhau tryloywder.

Yn ôl i'r brig

Datganiad Clo

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid cymunedol i sicrhau dyfodol cynaliadwy a buddiol i Neuadd y Dref Dinbych. Rydym yn annog yr holl sefydliadau sydd â diddordeb i ystyried sut y gall eu cynigion sicrhau’r gwerth cymunedol uchaf posibl tra’n sicrhau hyfywedd hirdymor.

Dylid darllen y Cwestiynau Cyffredin hyn ochr yn ochr â’r pecyn eiddo, y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.