Datganiad Cyfrifon: Cydbwyllgor AHNE

Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad

Rhoddir rhybudd, yn unol ag Adran 23 o Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (y Ddeddf), bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi tystio fod yr archwiliad o gyfrifon Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 wedi eu cwblhau.

Yn unol ag Adran 29 o’r Ddeddf, ar bob ddydd Llun i ddydd Gwener (arwahan i wyliau banc) rhwng yr oriau o 9am i 4pm, gall etholydd ar gyfer yr ardal, yn dilyn cais i’r Prif Swyddog Ariannol, arolygu a wneud copi o’r Datganiad Cyfrifon yn y cyfeiriad isod, neu ofyn am gopi o’r Datganiad Cyfrifon i gael ei anfon iddynt am gost rhesymol am bob copi.

Liz Thomas
Prif Swyddog Ariannol
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Dyddiedig 5 Tachwedd 2025

Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Gydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae angen cyfrifon ar wahân ar gyfer Cydbwyllgorau. Gan mai Sir Ddinbych yw’r cyngor arweiniol mewn perthynas â’r gwasanaeth cyllid a chyfrifeg, cyfrifoldeb Sir Ddinbych yn cwblhau’r datganiadau ariannol.

Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1982 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 mae Sir Ddinbych wedi cyhoeddi Ffurflen Flynyddol Cydbwyllgor yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn dilyn yr archwiliad.