Rhybudd o Archwiliad Cyfrifon 2022/23
Gallwch bellach ymgeisio i weld cyfrifon Cyd-bwyllgor Cyngor Sir Ddinbych ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023. Fe fyddant ar gael i’w gweld rhwng 25 Medi a 20 Hydref 2033, yn cynnwys y dyddiadau hynny (heblaw am benwythnosau).
Gweler yr hysbysiad llawn a sut i ymgeisio.
Mae’r datganiad cyfrifon blynyddol yn adrodd ar sefyllfa’r cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac ar drafodion yn ystod y flwyddyn honno.
Datganiad Cyfrifon 2022/23
Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol, Cyngor Sir Ddinbych lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau erbyn 31 Mai 2023.
Dangosir terfynau amser statudol 2022/23 yn y tabl isod ynghyd â therfynau amser estynedig a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Dyddiadau cau Datganiad Cyfrifon
Eitem | Dyddiad cau statudol | Dyddiad cau estynedig |
Datganiad Cyfrifon Drafft |
31 Mai 2023 |
31 Gorffennaf 2023 |
Datganiad Cyfrifon Archwiliedig |
31 Gorffennaf 2023 |
31 Rhagfyr 2023 |
Nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, a bydd yn gweithio o fewn y terfynau amser estynedig.
Dogfennau datganiad cyfrifon
Gallwch lawrlwytho’r datganiadau cyfrifon diweddaraf isod.
- Datganiad Cyfrifon: 2022-23 (drafft) (PDF, 4.09MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2021-22 (PDF, 3.09MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2020-21 (PDF, 2.88MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2019-20 (PDF, 2.79MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2018-19 (PDF, 2.26MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2017-18 (PDF, 2.29MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2016-17 (PDF, 2.2MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2015-16 (PDF, 2.16MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2014-15 (PDF, 2.1MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2013-14 (PDF, 1.78MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2012-13 (PDF, 1.7MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2011-12 (PDF, 2.15MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2010-11 (PDF, 1.7MB)
- Datganiad Cyfrifon: 2009-10 (PDF, 670KB)
- Datganiad Cyfrifon: 2008-09 (PDF, 476KB)
- Datganiad Cyfrifon: 2007-08 (PDF, 498KB)
Ar wahân i ddatganiad cyfrifon 2012-13 a 2013-14, mae'r dogfennau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.
Cyngor Sir Ddinbych a Cyd-Bwyllgor Bryniua Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Rhybudd o Archwiliad Cyfrifon 2022/23
Rhoddir rhybudd yn ôl Adran 29 i 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau 21, 22 ac 24 o’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014:
- O ddydd Llun 25 Medi hyd ddydd Gwener 20 Hydref 2023 yn gynwysedig (ag eithrio dyddiau Sadwrn a Sul) rhwng 10am a 3.30pm, gall unrhyw un wneud cais i'r Pennaeth Gwasanaethau Cyllid ac Archwilio (Swyddog Adran 151), yn Swyddfeydd y Cyngor, Rhuthun am gael archwilio a gwneud copiau o gyfrifon yr uchod am y flwyddyn sy’n diweddu 31 Mawrth 2023 a phob llyfr, gweithredoedd, biliau contractau, talebau a derbynebau perthynol.
- Ar ddydd Llun 23 Hydref 2023 am 10am bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolydd o Archwilio Cymru yn eu swyddfa yn Abergele ar 02920 320500, ar gais unrhyw etholydd llywodraeth leol yn rhanbarth y cyfrifon, i roi cyfle i’r etholydd neu ei gynrychiolydd ei holi am y cyfrifon, ac unrhyw etholwr o’r fath neu y caiff ei gynrychiolydd ddod gerbron yr Archwilydd a gwrthwynebu unrhyw rai o’r cyfrifon. Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad gan, neu ar ran, unrhyw etholydd os na fydd yr Archwilydd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw o’r gwrthwynebiad y bwriedir ei wneud a’r rhesymau am hynny. Pan fydd etholydd yn anfon rhybudd i’r Archwilydd bydd raid iddo hefyd anfon copi o’r rhybudd at y Cyngor Sir i’r cyfeiriad isod.
- Yr Archwilydd Cyffredinol Cymru yw Mr Adrian Crompton a’i gyfeiriad yw Archwilio Cymru, Llawr Gwaelod, Uned 5325, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ. Rhif ffon 02920 320500.
S Gadd
Pennaeth Gwasanaethau Cyllid ac Eiddo
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Dyddiedig 11 Medi 2023.
Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad
Rhoddir rhybudd trwy hyn bod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi tystio fod yr archwiliad o gyfrifon Cyngor Sir Ddinbych a Chydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 wedi ei gwblhau yn unol ag Adran 23 o Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (y Ddeddf).
Yn unol ag Adran 29 o’r Ddeddf, ar bob Ddydd Llun i Ddydd Gwener (arwahan i wyliau banc) rhwng yr oriau o 9yb i 4yp, gall etholydd ar gyfer yr ardal, yn dilyn cais i’r Prif Swyddog Ariannol, arolygu a wneud copi o’r Datganiad Cyfrifon yn y cyfeiriad isod, neu ofyn am gopi o’r Datganiad Cyfrifon i gael ei anfon iddynt am gost rhesymol am bob copi.
Steve Gadd
Prif Swyddog Ariannol
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Dyddiedig 15 Chwefror 2023
Cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Gydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae angen cyfrifon ar wahân ar gyfer Cydbwyllgorau. Gan mai Sir Ddinbych yw’r cyngor arweiniol mewn perthynas â’r gwasanaeth cyllid a chyfrifeg, cyfrifoldeb Sir Ddinbych yn cwblhau’r datganiadau ariannol.
Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1982 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 mae Sir Ddinbych wedi cyhoeddi Ffurflen Flynyddol Cydbwyllgor yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn dilyn yr archwiliad.