Mae Cyngor Sir Ddinbych yn aelod o Rwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru. Rydym wedi gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Ngogledd Cymru i ddatblygu Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru (NWPSEN) ac i ddynodi amcanion cydraddoldeb.
Cynllun Cydraddoldeb
Mae ein Cynllun Corfforaethol (2017 - 2022) hefyd yn Gynllun Llesiant a Chynllun Strategol Cydraddoldeb. Credwn y gallwn arddel yr ymdriniaeth integredig hon oherwydd bod y Cynllun yn galluogi'r Cyngor i sicrhau cynnydd sylweddol i bawb, drwy fynd i'r afael â’r anghydraddoldebau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae egwyddorion cydraddoldeb wedi’u hymgorffori yn holl swyddogaethau a gwasanaethau'r Cyngor.
Bwriad y cynllun integredig yw sicrhau triniaeth deg i bawb a dileu’r risg o driniaeth annheg neu anghyfartal, megis aflonyddu, erlid neu wahaniaethu anghyfreithlon yn ein gwaith a darpariaeth ein gwasanaethau. Mae swyddogaethau’r Cyngor yn cynnwys ein prosesau mewnol a thriniaeth gweithwyr, yn ogystal â’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i’r cyhoedd, a’r modd y byddwn yn trin y cyhoedd. Rydym yn anelu at feithrin cysylltiadau da a chyfleoedd cyfartal, a chyfrannu tuag at ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer holl bobl Sir Ddinbych.
Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, rhaid i ni sicrhau bod gennym gynllun cydraddoldeb strategol newydd bob pedair blynedd. Eleni, blwyddyn derfynol ein Cynllun Corfforaethol 2017 i 2022, byddwn yn creu cynllun dros dro a fydd yn cyfoethogi'r cynllun corfforaethol cyfredol, a allai hefyd alinio gyda’n hamcanion strategol eraill y Cynllun Corfforaethol nesaf o 2022 ymlaen.
Yn ystod oes y cynllun hwn a thu hwnt, byddwn yn sicrhau fod pob prosiect newydd a meysydd gwaith yn:
- Ymgysylltu, lle bo hynny’n briodol, gyda grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig.
- Ystyried cyfyngiadau o ran mynediad corfforol, yn benodol gydag adeiladau newydd, ond hefyd mewn perthynas â mynediad at wybodaeth a gwasanaethau.
- Ystyried pa mor briodol yw’r cyfleusterau sydd ar gael gennym yn stad y Cyngor at ddefnydd y bobl hynny sydd â nodweddion gwarchodedig.
- Ymgysylltu, herio a, lle bo modd, dileu rhwystrau rhag cyfleoedd (gan gynnwys gwaith) ar gyfer y rhai hynny sydd â nodweddion gwarchodedig.
- Condemnio bwlio ac aflonyddu yn ymwneud â chasineb.
Darllenwch ein Cynllun Corfforaethol llawn.
Amcanion Cydraddoldeb
Ym mis Ebrill 2011 cyflwynwyd dyletswydd cydraddoldeb sengl newydd y sector cyhoeddus (y PSED) ac yn yr un mis, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau yn sefydlu cyfres o ddyletswyddau penodol i gynnal dyletswydd gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010.
Fel rhan o'n dyletswydd, mae'n ofynnol i ni gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Strategol am gyfnod o bedair blynedd ac adrodd ar gynnydd y cynllun yn flynyddol. Nid oes angen o reidrwydd i hon fod yn ddogfen unigol, annibynnol, felly rydym wedi dewis ei hymgorffori yn ein Cynllun Corfforaethol 2017-2022 gan atgyfnerthu gwerth ein gwaith amrywiaeth a chydraddoldeb ac ategu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae dogfen Adolygu Perfformiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol yn canolbwyntio ar ein holl weithgareddau ar gyfer 2017 – 2018 ac yn diwallu ein dyletswydd statudol i gyhoeddi dogfen flynyddol i egluro sut yr ydym wedi cwrdd â'n dyletswyddau cydraddoldeb.
Yn ychwanegol at alinio ein gweithgareddau â'r Nodau Llesiant, bydd ein gweithgareddau’n cyd-fynd yn fras â’r amcanion sector cyhoeddus rhanbarthol arfaethedig a’r Heriau Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - 'A yw Cymru’n Decach?'' (gwefan allanol). Adroddiad wedi'i gyhoeddi fis Hydref 2018.
Yn 2021, byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau i ymgynghori ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol dros dro, a fydd yn alinio gyda’r Cynllun Corfforaethol newydd o 2022. Bydd hyn yn diwallu ein hymrwymiad, a’n rhwymedigaeth o dan y gyfraith, i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein cymunedau, ac i ddarparu cynllun pedair blynedd. Bydd ein hymchwil yn alinio gyda'r Asesiad Lles ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Sut y gwnaethom ddatblygu amcanion ein Cynllun Corfforaethol drwy ymgysylltiad.
Gallwch ddysgu mwy am y math o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio i ddatblygu ein cynllun a'n hamcanion.