Cynllun Ynni Ardal Leol

Rhagair

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol a newid hinsawdd, a chyfrannu at gyflawni nodau cyfun Cymru o gael sector cyhoeddus Sero Net erbyn 2030 a Chymru Sero Net erbyn 2050. Fe wnaethon ni, fel Cyngor, ddatgan Argyfwng Ecolegol a Newid Hinsawdd yn 2019, newid ein cyfansoddiad yn 2020 fel bod pob penderfyniad yn ystyried mynd i’r afael â’r argyfyngau hyn. Fe wnaethon ni fabwysiadu ein Strategaeth Hinsawdd a Natur yn 2021, gan amlinellu ein Nodau i fod yn Gyngor Carbon Sero Net a Chyngor Cadarnhaol yn Ecolegol, ac fe wnaethon ni adfer ein hymrwymiad i greu “Sir Ddinbych Wyrddach” yn ein Cynllun Corfforaethol.

Ers mis Ebrill y llynedd, rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Arup, Yr Ymddiriedolaeth Garbon ac Afallen ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i greu Cynllun Ynni Ardal Leol. Cynllun cyfannol yw hwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac mae’n amlinellu graddfa’r newid a’r cyfle i ddatgarboneiddio system ynni leol Sir Ddinbych. Mae gweithdai wedi dod â ni at ein gilydd i drafod ein system ynni leol bresennol, i weld sut gallai ein system ynni leol fod yn y dyfodol a sut gallen ni weithio gyda’n gilydd i ddylanwadu a chyflawni’r hyn sydd ei angen ar gyfer system ynni wedi’i datgarboneiddio. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran siapio’r broses o drawsnewid Sir Ddinbych a Chymru yn Sero Net. Ac fel yr Awdurdod Lleol, rydyn ni’n deall pa mor bwysig fydd hi i ni wneud hyn mewn ffordd sy’n diogelu ac yn cefnogi ein cymunedau mwyaf agored i niwed, ac sy’n darparu manteision ychwanegol, fel gwell cyfleoedd iechyd a chyflogaeth ledled y sir.

Mae cael Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer Sir Ddinbych yn golygu bod ein cynllun gweithredu lleol ar y newid yn yr hinsawdd a chynllunio cysylltiedig ar gyfer ynni yn cyd-fynd yn well â chynllunio seilwaith ynni rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn sicrhau bod ein blaenoriaethau lleol yn parhau i fod wrth galon y trawsnewid i ynni adnewyddadwy. Mae’n dangos ein hymrwymiad ar y cyd i gyrraedd Sero Net, ac mae’n sylfaen dystiolaeth a fydd yn amhrisiadwy i amrywiaeth eang o randdeiliaid er mwyn ennyn newid, fel:

  • Helpu i benderfynu pa gynhyrchion, partneriaethau neu wasanaethau y gellid eu cynnig a’u darparu mewn ardal leol.
  • Tynnu sylw datblygwyr at ardaloedd sydd â photensial sylweddol
  • Helpu i baratoi sefydliadau’n well ar gyfer cyfleoedd cyllid cyhoeddus
  • Llywio barn a phenderfyniadau rhanbarthol, er mwyn sicrhau newid cost-effeithiol; neu
  • Gryfhau’r achos dros newid polisi sydd ei angen ar lefel llywodraeth y DU

Fel Cyngor, rydyn ni’n llawn cymhelliant i yrru ymgyrch Sero Net ar lefel leol a chydnabod ein rôl fel cynullydd a chydlynydd, i ysgogi eraill i wneud yr un peth. Mae’n hanfodol ein bod yn gosod ein nodau o ran yr hyn y gallwn ei gyfrannu fel Awdurdod Lleol i sbarduno’r newid i ddyfodol mwy gwyrdd.

Ond, dim ond hyn a hyn o ddylanwad sydd gennym dros y system ynni, ac ni allwn gyflawni’r cynllun hwn heb fewnbwn gan eraill yng ngogledd Cymru, yn bwysicaf oll y rhwydweithiau ynni sy’n dylanwadu ar ba fuddsoddiad hanfodol mewn rhwydweithiau sy’n cael ei wneud, a Llywodraeth Cymru, sy’n gallu creu’r amgylchedd polisi cefnogol sydd ei angen ar ein CYAL i gyrraedd ei lawn botensial. Y bwriad yw ein bod yn gweithio gydag eraill yng ngogledd Cymru i gyflawni’r cynlluniau hyn. Byddan nhw’n llywio’r rhaglen yn y dyfodol, gyda grŵp llywio o gynrychiolwyr o sefydliadau allweddol sydd ag arbenigedd i’w gynnig. Rhaid i ni gynnal y momentwm a byddwn yn cysylltu â chi i drefnu rhagor o sesiynau gweithgor ar ôl i ni sefydlu strwythur llywodraethu llawn y prosiect.

Diolch am ein helpu i sefydlu CYAL Sir Ddinbych.

Y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod arweiniol dros yr Aamgylchedd a Thrafnidiaeth

Cynllun Ynni Ardal Leol (PDF, 3MB)