Strategaeth Ddigidol 2026 i 2031: Cefnogi Dyfodol Digidol

Mae'r Strategaeth Ddigidol yn nodi sut y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn defnyddio technoleg, data a ffyrdd modern o weithio i wella gwasanaethau ar gyfer trigolion, cefnogi staff a chynghorwyr a rhoi mwy o werth am arian dros y pum mlynedd nesaf.

Ein gweledigaeth yw bod yn Gyngor sy’n hyderus yn ddigidol, yn darparu gwasanaethau cynhwysol, diogel ac effeithlon sydd wedi'u cynllunio o gwmpas anghenion trigolion. Rydym ni eisiau i’n gwasanaethau fod yn hawdd eu defnyddio ac iddynt ymateb i anghenion ein cymunedau, gan sicrhau bod y rheiny sydd angen cymorth trwy ddulliau eraill yn parhau i gael hynny.

Strategaeth Ddigidol 2026 i 2031: Cefnogi Dyfodol Digidol (PDF, 595KB)