Strategaeth gofalwyr Gogledd Cymru

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cydnabod y rôl allweddol mae gofalwyr o bob oed yn ei chwarae yn yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol, a bod angen iddynt gael eu gwerthfawrogi am y cymorth maen nhw’n ei ddarparu. Mae’r bartneriaeth hefyd yn cydnabod bod angen eu cefnogi yn y rôl hanfodol hon.

Mae’r strategaeth hon yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gyda gofalwyr drwy eu cyswllt gyda gwasanaethau ac mae’n seiliedig ar egwyddorion y model Triongl Gofal a ddatblygwyd yn wreiddiol fel canllaw i arfer gorau mewn gofal iechyd meddwl yn Lloegr.

Strategaeth Gofalwyr Gogledd Cymru (PDF, 1.06MB)