Strategaeth gofalwyr

Mae gofalwyr yn chwarae rôl ganolog wrth gefnogi pobl ddiamddiffyn i fyw yn eu cartrefi.

Maent yn aml yn cefnogi pobl sydd ag anghenion gofal cymhleth a thymor hir, a gall fod yn rôl heriol ac sy'n gofyn llawer.

Diben y ddogfen Strategaeth yw nodi sut y bydd Grŵp Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych yn parhau i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu ymhellach y gefnogaeth i Ofalwyr yn Sir Ddinbych mewn ffordd sy'n mynd i'r afael ag anghenion lleol Gofalwyr, o fewn cyd-destun y galw cynyddol, deddfwriaeth newydd a newidiadau demograffig.

Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych (PDF,  436KB)