Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn canolbwyntio ar atal y problemau hyn, amddiffyn dioddefwyr a chefnogi’r rhai a effeithir gan faterion o'r fath.

Mae hwn yn ddarn unigryw ac arloesol o ddeddfwriaeth.

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno gofyniadau i:

  • Weinidogion Cymru: Paratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol mewn perthynas â’r materion hyn
  • Penodi Ymgynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a ffurfiau eraill o Drais yn seiliedig ar Rywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol:

  • Baratoi a chyhoeddi strategaethau i gyfrannu at olrhain pwrpas y Ddeddf
  • Darparu hyfforddiant ac ymwybyddiaeth sylfaenol i’r holl staff yn yr Awdurdod Lleol (Grŵp 1)
  • Darparu hyfforddiant uwch i staff sy’n fwyaf tebygol o wneud cysylltiad gyda’r rhai hynny sy’n profi cam-drin domestig, trais rhywiol a ffurfiau eraill o drais yn seiliedig ar rywedd fel rhan o’u rolau. (Grŵp 2)
  • Adrodd ar sut maent yn rhoi sylw i faterion VAWDASV yn eu swyddogaethau addysgol, gan gynnwys unrhyw gamau gweithredu a gymerir o fewn ysgolion

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau trydydd sector yng Ngogledd Cymru i gynhyrchu eu strategaeth gyntaf gyfunol (2018-2023) wedi’i hanelu at roi’r gorau i drais yn erbyn menywod, trais yn seiliedig ar rywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn unol â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Dogfen strategaeth

Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gogledd Cymru (PDF, 1.5MB)

Cynnydd

Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru 2021-2024 - Diweddariad ar Gynnydd, Mehefin 2022 (gwefan allanol)