Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio (ffyrdd amwyriol) Rhuthun 2026
Rydym yn ymgynghori ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) ar gyfer y ffyrdd canlynol yn Rhuthun
- Ffordd Wynnstay
- Stryd y Farchnad
- Stryd y Ffynnon
- Stryd y Castell
- Sgwâr Sant Pedr
- Upper Clwyd Street
- Heol Clwyd
- Stryd y Prior
Yr effeithiau'r cyfyngiadau hyn fydd:
- Lleoedd Llwytho a rennir ar gyfer Bysiau a Cherbydau Nwyddau
- Lleoedd gyda chyfyngiad ar aros
- Dim Aros ar Unrhyw Adeg
- Dim Aros Cyfyngedig o ran Amser
Mae angen lleoedd llwytho coetsys a cherbydau nwyddau a rennir i reoli anghenion llwytho a dadlwytho cerbydau nwyddau masnachol a choetsys teithwyr mewn ardal ddynodedig yn ddiogel. Mae hyn yn atal traffig rhag cael ei rwystro ac mae hefyd yn sicrhau y gall teithwyr symud yn ddiogel.
Mae lleoedd aros cyfyngedig yn caniatáu parcio tymor byr.
Mae angen y cyfyngiadau parcio (llinellau melyn dwbl) i atal cerbydau rhag parcio ar ochrau'r ffordd ac atal traffig rhag mynd heibio iddynt.
Y Gronfa Ffyniant Bro: Sgwâr Sant Pedr
Mae'r ymgynghoriad Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) hwn yn cefnogi'r prosiect Ffyniant Bro ar gyfer Sgwâr San Pedr.
- Mae ymgynghoriad wedi bod ar ddyluniad cyffredinol y Cynllun, a mae ymgynghoriad cychwynnol wedi digwydd rhwng Ebrill a Mai 2024. Mae 67% o'r ymatebwyr wedi cefnogi'r Cynllun.
- Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor symud y cynllun ymlaen i'r cyfnod dylunio mewn cyfarfod ar 30 Gorffennaf 2024
- Mae ymgynghoriad ar ddyluniadau cynlluniau posibl wedi digwydd ym mis Mawrth 2025, ac yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, mae'r dyluniadau bellach wedi'u cwblhau.
Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn unrhyw sylwadau pellach am y cynllun cyffredinol na'r dyluniad. Byddwn yn unig gallu dderbyn ymatebion i'r ymgynghoriad TRO hwn sy'n ymwneud â sylwedd y TRO.
Bydd pob sylw arall yn cael ei ddiystyru fel ymatebion annilys.
Ar gyfer rhagor o wybodaeth ar y cynllun Ffyniant Bro ar gyfer Sgwâr Sant Pedr, ewch i'r dudalen canlynol o'n gwefanL
Y Gronfa Ffyniant Bro: Sgwâr Sant Pedr | Cyngor Sir Ddinbych
Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO)?
Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu neu’n gwahardd y defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwefan allanol).
Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau yn yr ardaloedd lle cânt eu cynnig.
Gellir ond cynnig Gorchymyn Rheoleiddio Traffig am y rhesymau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellir ond cynnig cynllun os yw’r rheoliadau’n caniatáu ar gyfer gosod llinellau ar y ffordd neu’r palmant neu arwyddion priffyrdd priodol ar safle’r cynllun.
Mae enghreifftiau o gynlluniau sy’n ymofyn Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys:
- Gwaharddiad Aros
- Newidiadau i derfynau cyflymder
- Cyfyngiadau parcio ar y stryd
- Cyfyngiadau pwysau / lled neu gyfyngiadau eraill ar gerbydau
- Strydoedd unffordd
Gorfodi
Unwaith y bydd y Gorchymyn wedi'i wneud, Swyddogion Gorfodi Sifil (CEOs) y Cyngor fydd yn gyfrifol am orfodi.
Mae gan CEOs y pwerau i roi hysbysiadau tâl cosb (PCNs) i unrhyw gerbydau sydd wedi'u parcio ar y llinellau melyn dwbl.
Rhannwch eich barn â ni
Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 21 diwrnod. Rydym yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod hysbysiadau yn yr ardal leol lle cynigir gweithredu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen hon ar ein gwefan.
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech cystal ag anfon eich adborth atom drwy:
Lenwi'r ffurflen adborth ar-lein (gwefan allanol)
Ysgrifennu at:
Catrin Roberts,
Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl
Cyngor Sir Ddinbych,
Ffordd Wynnstay
Rhuthun,
LL15 1YN
Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw: 30 Tachwedd 2025.
Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad a dylid nodi y gall y Cyngor roi ystyriaeth i'r holl sylwadau sy'n cael eu derbyn yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau hynny fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.
Dogfennau cysylltiedig
Ymgynghoriadau cysylltiedig
Fel rhan o'r un cynllun i wella canol tref Rhuthun, rydym hefyd yn ymgynghori ar y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TROs) canlynol