Gorchymyn Rheoleiddio Traffig:

Newidiadau i barcio oddi ar y stryd yn Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun

Rydym yn ymgynghori ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) ar gyfer Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun, a'r effaithiau fydd:

  • I addasu cynllun presennol a maint arwynebedd y maes parcio
  • I gyflwyno rheoliadau diwygiedig i fod mewn grym bob amser fel y nodir yn y gorchymyn er mwyn gorfodi’n effeithiol y maes parcio a enwir yn y Gorchymyn hwn
  • I atal camddefnyddio’r maes parcio
  • I sicrhau’n glir gall dim ond y dosbarth defnydd penodedig (math o gerbyd) yn ddefnyddio’r mannau a neilltuwyd ar eu cyfer, ac y mae’n rhaid i bob defnyddiwr barcio o fewn man penodedig lle mae’r mannau wedi’u marcio

Y Gronfa Ffyniant Bro: Sgwâr Sant Pedr

Mae'r ymgynghoriad Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) hwn yn cefnogi'r prosiect Ffyniant Bro ar gyfer Sgwâr San Pedr.


  • Mae ymgynghoriad wedi bod ar ddyluniad cyffredinol y Cynllun, a mae ymgynghoriad cychwynnol wedi digwydd rhwng Ebrill a Mai 2024. Mae 67% o'r ymatebwyr wedi cefnogi'r Cynllun.
  • Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor symud y cynllun ymlaen i'r cyfnod dylunio mewn cyfarfod ar 30 Gorffennaf 2024
  • Mae ymgynghoriad ar ddyluniadau cynlluniau posibl wedi digwydd ym mis Mawrth 2025, ac yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, mae'r dyluniadau bellach wedi'u cwblhau.

Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn unrhyw sylwadau pellach am y cynllun cyffredinol na'r dyluniad. Byddwn yn unig gallu dderbyn ymatebion i'r ymgynghoriad TRO hwn sy'n ymwneud â sylwedd y TRO.

Bydd pob sylw arall yn cael ei ddiystyru fel ymatebion annilys.


Ar gyfer rhagor o wybodaeth ar y cynllun Ffyniant Bro ar gyfer Sgwâr Sant Pedr, ewch i'r dudalen canlynol o'n gwefanL

Y Gronfa Ffyniant Bro: Sgwâr Sant Pedr | Cyngor Sir Ddinbych

Beth yw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO)?

Mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ddogfen gyfreithiol sy’n cyfyngu neu’n gwahardd y defnydd o’r rhwydwaith priffyrdd, yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (gwefan allanol).

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ein helpu i reoli’r rhwydwaith priffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn cynnwys cerddwyr a’u nod yw gwella diogelwch ffyrdd a mynediad at gyfleusterau yn yr ardaloedd lle cânt eu cynnig.

Gellir ond cynnig Gorchymyn Rheoleiddio Traffig am y rhesymau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellir ond cynnig cynllun os yw’r rheoliadau’n caniatáu ar gyfer gosod llinellau ar y ffordd neu’r palmant neu arwyddion priffyrdd priodol ar safle’r cynllun.

Mae enghreifftiau o gynlluniau sy’n ymofyn Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys:

  • Gwaharddiad Aros
  • Newidiadau i derfynau cyflymder
  • Cyfyngiadau parcio ar y stryd
  • Cyfyngiadau pwysau / lled neu gyfyngiadau eraill ar gerbydau
  • Strydoedd unffordd

Gorfodi

Unwaith y bydd y Gorchymyn wedi'i wneud, Swyddogion Gorfodi Sifil (CEOs) y Cyngor fydd yn gyfrifol am orfodi.

Mae gan CEOs y pwerau i roi hysbysiadau tâl cosb (PCNs) i unrhyw gerbydau sydd wedi'u parcio ar y llinellau melyn dwbl.

Rhannwch eich barn â ni

Cyn gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, mae’n ofyniad cyfreithiol arnom i ymgynghori â’r cyhoedd am gyfnod o 21 diwrnod. Rydym yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn y wasg leol ac yn gosod hysbysiadau yn yr ardal leol lle cynigir gweithredu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Rydym hefyd wedi creu’r dudalen hon ar ein gwefan.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu wrthwynebiad i’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, byddem yn ddiolchgar pe baech cystal ag anfon eich adborth atom drwy:

Lenwi'r ffurflen adborth ar-lein (gwefan allanol)

Ysgrifennu at:

Catrin Roberts,
Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl
Cyngor Sir Ddinbych,
Ffordd Wynnstay
Rhuthun,
LL15 1YN

Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw: 30 Tachwedd 2025.

Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad a dylid nodi y gall y Cyngor roi ystyriaeth i'r holl sylwadau sy'n cael eu derbyn yng ngŵydd y cyhoedd a gallai sylwedd unrhyw sylwadau ynghyd ag enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y sylwadau hynny fod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio.