Hawliadau yswiriant yn erbyn y cyngor

Mae gennych chi hawl i wneud hawliad yn erbyn y cyngor am unrhyw ddifrod neu anaf yr ydych chi'n credu y mae'r cyngor wedi ei achosi i chi neu'ch eiddo.

Nid yw gwneud hawliad yn golygu y byddwch chi'n derbyn iawndal sm ddifrod neu anaf. Mae'n rhaid ystyried nifer o ffactorau er mwyn canfod a yw'r cyngor wedi bod yn esgeulus ac yn atebol yn gyfreithiol.

Gall profi esgeulustod ac atebolrwydd cyfreithiol fod yn broses gymhleth ac rydym ni'n awgrymu eich bod yn derbyn cyngor cyfreithiol cyn gwneud unrhyw hawliad. Ni chaiff staff y cyngor gyfaddef neu gwadu esgeulustod. Yswirwyr y cyngor y cyngor fydd yn penderfynu a yw'r cyngor ar fai ac yn atebol.

Sut i wneud hawliad

Os ydych chi'n dymuno gwneud hawliad am iawndal, fe ddylech chi wneud hynny yn ysgrifenedig a chynnwys:

  • eich enw a'ch cyfeiriad
  • ble a phryd y digwyddodd y digwyddiad
  • manylion unrhyw ddifod neu anaf

Gallwch anfon eich hawliad drwy e-bost neu drwy'r post at:

Adran Yswiriant
Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun
LL15 9AZ

ID Porth

Os ydych chi'n dwrnai trydydd parti yn holi am ein manylion yswiriant, maent fel a ganlyn:

For Employers Liability and Public Liability claims our insurer is Zurich Insurance Company Ltd.

Rhif polisi: QLA04U0100023

Dyddiad adnewyddu: 30 Gorffennaf 2026

ID Porth: C00650