Yr Arweinydd, y Cabinet a Chynghorwyr etholedig

Mae gan y cyngor 48 o gynghorwyr, sy’n cynrychioli 29 o wardiau ac yn gwasanaethu oddeutu 94,000 o bobl. Cynhaliwyd yr etholiad ddiwethaf ym mis Mai 2022, a disgwylir i'r un nesaf gael ei chynnal yn 2027.

Caiff cyfarfodydd Cyngor llawn eu cynnal o leiaf 8 gwaith y flwyddyn, ac mae’r 48 cynghorydd yn bresennol ynddynt. Maent yn trafod materion megis perfformiad y cyngor o ran darparu gwasanaethau, gosod treth y cyngor, partneriaethau gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill ac effaith polisi'r llywodraeth ar breswylwyr Sir Ddinbych.

Yr Arweinydd

Arweinydd y cyngor yw'r Cynghorydd Jason McLellan. Mae’r arweinydd yn cael ei ethol gan y cyngor llawn ac mae'n gwneud y swydd tan yr etholiad nesaf. Mae'r arweinydd yn penodi'r Cabinet ac yn arwain cyfeiriad gwleidyddol y cyngor.

Dirprwy Arweinydd

Y Cynghorydd Gill German yw'r Dirprwy Arweinydd

Cadeirydd 

Cadeirydd y cyngor yw'r Y Cynghorydd Peter Scott. Mae’r cadeirydd yn cael ei ethol gan y cyngor llawn mewn cyfarfod blynyddol ym mis Mai, ac mae’n gwneud y swydd am flwyddyn. Mae’r cadeirydd yn ddiduedd yn wleidyddol. Mae’n cadeirio cyfarfodydd y cyngor llawn, ac yn mynd i’r afael ag ystod eang o ddyletswyddau cymunedol a seremonïol.

Cysylltwch â'r cadeirydd.

Is-Gadeirydd

Yr Is-gadeirydd yw'r Y Cynghorydd Diane King.

Cabinet

Mae’r Cabinet yn cynnwys 9 cynghorwr, gan gynnwys yr Arweinydd a'r Is-Arweinydd. Mae gan bob un o'r 9 aelod gyfrifoldeb dros faes polisi penodol, a elwir yn bortffolio.

Mae’r Cabinet yn cyfarfod bob chwech wythnos ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut y darperir gwasanaethau yn Sir Ddinbych.