Sut i gael cymorth gan Cyswllt Teulu

Mae Gweithwyr Cyswllt Teulu yn cynnal grwpiau iaith a chwarae am ddim ar draws Sir Ddinbych ac yn gweithio â lleoliadau cyn ysgol ac ysgolion cynradd gan gynnig cymorth i blant â:

  • Pharatoi ar gyfer mynd i’r ysgol
  • Mynd i’r toiled
  • Iaith a Lleferydd
  • Ymddygiad
  • Patrymau cysgu
  • Bwydo
  • Iaith a Chwarae/ sesiynau rhieni a phlant
  • Cymorth meithrin

Cysylltu â ni ar-lein

Mae croeso i chi gysylltu â ni ar-lein i ddarganfod a allwn ni eich helpu chi neu eich plentyn neu os ydych chi’n awyddus i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn ni eich helpu. 

Cysylltu â Gweithwyr Cyswllt Teulu Sir Ddinbych

Mwy gwybodaeth

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn:

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych

Os ydych chi ar Facebook, gallwch chi ymuno â grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych i gael syniadau a chyngor addysgiadol i blant dan oed ysgol.

Grŵp Facebook Blynyddoedd Cynnar a Chyswllt Teulu Sir Ddinbych (gwefan allanol)