Hyfforddiant GGD: Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys a Chymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle
Bydd y cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys a Chymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle yn darparu’r wybodaeth a’r cymhwysedd ymarferol sydd eu hangen i ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd Cymorth Cyntaf Pediatrig. Byddwch chi’n cael dwy dystysgrif cymhwyster wrth fynychu’r cwrs hwn.
Pryd a lle fydd y cyrsiau’n digwydd?
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnal ar:
- Dydd Sadwrn 6 a 13 Mehefin 2026, o 9:30am tan 3:30pm yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl
- Dydd Mawrth 7, Dydd Mercher 8, Dydd Mawrth 14 a Dydd Mercher 15 Gorffennaf, o 6:30pm tan 9:30pm yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl
- Dydd Sadwrn 12 a 19 Medi 2026, o 9:30am tan 3:30pm yn y Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun
- Dydd Mawrth 13, Dydd Mercher 14, Dydd Mawrth 20 a Dydd Mercher 21 Hydref 2026, o 6:30pm tan 9:30pm yn y Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun
- Dydd Mercher 18 a Dydd Iau 19 Tachwedd 2026, o 9:30am tan 3:30pm yn y Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun
- Dydd Mawrth 12 a Dydd Mercher 13 Ionawr 2027, o 9:30am tan 3:30pm yn y Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun
- Dydd Mawrth 16, Dydd Mercher 17, Dydd Mawrth 23 a Dydd Mercher 24 Chwefror 2027, o 6:30pm tan 9:30pm yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl
- Dydd Mawrth 16 a Dydd Mercher 17 Mawrth 2027, o 9:30am tan 3:30pm yng Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl
Canolfan Naylor Leyland
Gwybodaeth am Canolfan Naylor Leyland
Cyfeiriad Canolfan Naylor Leyland yw:
55 Well Street,
Rhuthun
LL15 1AF
Parcio
Mae maes parcio yn Canolfan Naylor Leyland.
Canolfan y Dderwen
Gwybodaeth am y Nghanolfan y Dderwen
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Pwy gaiff fynychu?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).
Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.
Ar ôl cael y cais i gadw lle byddwn yna’n anfon e-bost yn cadarnhau gyda manylion eich cwrs hyfforddi.
Ffurflen gais ar-lein i gadw lle ar gyfer cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys a Chymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Codir tâl arnoch chi, neu'ch lleoliad gofal plant, os na fyddwch yn canslo archeb mewn pryd.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru