Hyfforddiant GGD: Diogelu Grŵp B
Mae’r cymhwyster Diogelu Grŵp B wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n cael cyswllt â phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed yn eu hamgylchedd gwaith, yn cynnwys gwaith gwirfoddol. Mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth a sensitifrwydd tuag at ddiogelu gan alluogi dysgwyr i adnabod problemau ac mae’n pwysleisio’r cyfrifoldeb i sicrhau y caiff pryderon eu hadrodd ac y cymerir y camau priodol mewn ymateb iddynt.
Pryd a lle fydd y hyfforddiant yn digwydd?
Mae'r hyfforddiant Diogelu Grŵp B yn cael eu cynnal ar:
- Dydd Mawrth 26 a Dydd Mercher 27 Mai 2026 yn Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl, o 6:30pm tan 8:30pm
- Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2026 yn Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl, o 9:30am tan 1:30pm
- Dydd Mercher 16 a Dydd Iau 17 Medi 2026 yn Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl, o 6:30pm tan 8:30pm
- Dydd Sadwrn 28 Tachwedd 2026 yn Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun, o 9:30am tan 1:30pm
- Dydd Sadwrn 16th Ionawr 2027 yn Nghanolfan y Dderwen, y Rhyl, o 9:30am tan 1:30pm
- Dydd Mawrth 23 a Dydd Mercher 24 Chwefror 2027 yn Canolfan Naylor Leyland, Rhuthun, o 6:30pm tan 8:30pm
Gwybodaeth am y lleoliad
Canolfan Naylor Leyland
Gwybodaeth am Canolfan Naylor Leyland
Cyfeiriad Canolfan Naylor Leyland yw:
55 Well Street,
Rhuthun
LL15 1AF
Parcio
Mae maes parcio yn Canolfan Naylor Leyland.
Canolfan y Dderwen
Gwybodaeth am lleoliad am Nghanolfan y Dderwen
Cyfeiriad Canolfan y Dderwen yw
Fforddlas
Y Rhyl
LL18 2DY
Parcio
Mae maes parcio yng Nghanolfan y Dderwen.
Cyfleusterau ar gyfer pobl anabl
Mae gan Ganolfan y Dderwen:
- Doiledau hygyrch
- Parcio hygyrch
- Dolen clyw
- Lifft
- Drysau awtomatig
- Mynediad ar rampiau/mynediad ar lefel
Pwy gaiff fynychu?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob darparwr gofal plant cofrestredig yn Sir Ddinbych sydd wedi cofrestru, neu sydd yn cofrestru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (gwefan allanol).
Rhaid i'r lleoliad hefyd fod wedi'i gofrestru gyda Dewis.Cymru (gwefan allanol)
Sut i gymryd rhan
Bydd angen i bob unigolyn sydd am fynychu lenwi’r ffurflen gais ar-lein i gadw lle.
Ar ôl cael y cais i gadw lle byddwn yna’n anfon e-bost yn cadarnhau gyda manylion eich cwrs hyfforddi.
Ffurflen gais ar-lein i gadw lle ar gyfer Hyfforddiant Diogelu Grŵp B
Rhagor o wybodaeth
Caiff y cwrs hwn ei ddarparu gan Groundwork North Wales (gwefan allanol).
Canslo Archeb
Os ydych angen canslo archeb yna rhaid canslo eich lle o leiaf dau ddiwrnod gwaith cyn i’r cwrs gael ei gynnal. Codir tâl arnoch chi, neu'ch lleoliad gofal plant, os nad ydych yn canslo ar amser.
Canslo archeb ar-lein
Manylion lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru
Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru manylion eich lleoliad gofal plant ar Dewis Cymru.
Darganfod sut i ddiweddaru’ch manylion ar Dewis Cymru