Perfformiad ar y Gitâr yn Nantclwyd y Dre
Ymunwch â ni am noson o gitâr glasurol gan y gitarydd enwog Jonathan Richards, yn cynnwys rhaglen eclectig o ddarnau’r Dadeni a darnau traddodiadol ynghyd â rhai o’r clasuron gan Albeniz, Granados a sawl darn gan y perfformiwr ei hun.
"Mae’n chwarae’r campweithiau tragwyddol hyn â gosgeiddrwydd ac angerdd." New Classics
"Gitarydd hynod dalentog." Daily Post
"Medrus iawn." Gramophone
Pryd: Dydd Mawrth 8 Medi 2026
Amser: 7pm i 9pm (amser gorffen bras)

Pwy all ddod i'r digwyddiad hwn?
Rydym yn disgwyl i’r digwyddiad hwn roi pleser penodol i rai sy’n caru cerddoriaeth glasurol ac er nad oes cyfyngiad oedran penodol, byddem yn cynghori nad yw’n addas i blant ifanc.
Sut i archebu
Rhaid archebu ar gyfer y digwyddiad hwn, er y bydd rhai tocynnau ar gael ar y diwrnod efallai.
Mae tocynnau’n £15 yr un ac ar gael i’w prynu o Nantclwyd y Dre ar ddydd Iau, Gwener neu Sadwrn rhwng 10:30am a 3.30pm. Un anffodus, ni allwn gymryd taliad ar-lein neu dros y ffôn ar hyn o bryd.
Dod o hyd i ni
Sut i gyrraedd Nantclwyd y Dre a gwybodaeth am barcio.
Gwybodaeth am hygyrchedd
Gall y rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, neu rai yn cael trafferth dringo grisiau ddefnyddio ein mynediad hygyrch drwy’r stryd gefn i’r dde o’r tŷ. Y tu mewn, mae un gris bychan rhwng y fynedfa a’r Parlwr ar y llawr gwaelod ble cynhelir y perfformiad. Mae dau doiled hygyrch ar lawr gwaelod y tŷ. Cysylltwch â’r tîm cyn ymweld os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd penodol neu i gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd yn Nantclwyd y Dre.
Cyfryngau cymdeithasol