Mae safle Nantclwyd y Dre wedi’i leoli yn Rhuthun, sef tref sydd wedi’i chysylltu’n dda ac yn hawdd ei chyrraedd gyda char a bws, neu drwy deithio o’r gorsafoedd rheilffordd agosaf.
Cyfeiriad
Stryd y Castell
Rhuthun
LL15 1DP
Teithio gyda char
Gellir cyrraedd Rhuthun drwy ddilyn yr A494 a’r A525. Mae oddeutu 40 munud o Gaer ac awr i awr a hanner o Lerpwl a Manceinion. Gellir hefyd cyrraedd Rhuthun drwy deithio ar hyd yr A5 i Langollen wrth ymweld â’n safle arall, Plas Newydd, ac yna drwy ddilyn yr A494 dros Fwlch yr Oernant, ar daith oddeutu 30 munud o hyd.
Parcio
Nid oes gan Nantclwyd y Dre faes parcio ar y safle. Meysydd parcio agosaf y cyngor yw:
Teithio ar fws
Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn rhedeg o Wrecsam, Dinbych a’r Wyddgrug i Ruthun. Gwiriwch amserlenni’r gweithredwyr i weld y llwybrau a’r prisiau diweddaraf.
Teithio ar drên
Os ydych yn teithio i Ruthun ar drên, bydd angen i chi gymryd bws neu dacsi o un o’r gorsafoedd rheilffordd agosaf, sef Wrecsam neu’r Rhyl. Edrychwch ar wefannau’r gweithredwyr i weld amseroedd teithiau a phrisiau.
Map o'r lleoliad
Sgipiwch y map gweladwy.