Nantclwyd y Dre: Ymweliadau grŵp a choets
Yn Nantclwyd y Dre, gall grwpiau archwilio dros 500 mlynedd o hanes dan un tro, drwy gydol y flwyddyn.
Ar gyfer gweithredwyr coetsys a grwpiau o bob math, mae Nantclwyd y Dre’n cynnig diwrnod diddorol llawn hanes a garddwriaeth, gydag opsiynau ar gyfer lluniaeth a theithiau tywys.
Cynllunio eich diwrnod
Os hoffech chi ymweld â Nantclwyd y Dre fel rhan o daith o amgylch yr ardal, byddwn yn hapus i’ch helpu i gynllunio a mwynhau’r atyniadau hanesyddol bythgofiadwy a rhai o leoliadau hardd yr ardal.
Prisiau ymweliadau coets a grŵp
Gweler y tabl isod ar gyfer prisiau ymweliadau coets a grŵp:
Prisiau grŵp
Prisiau grŵp | Prisiau grŵp |
Grŵp o o leiaf 15 o bobl yn ystod oriau agor yr haf |
£7.50 yr un |
Grŵp o o leiaf 15 o bobl pan fyddwn wedi cau dros y gaeaf |
£7.50 yr un, yn ogystal â £50 ychwanegol fesul grŵp |
Mae’r ffioedd mynediad cyffredinol yn berthnasol ar gyfer grwpiau â llai na 15 o bobl.
Sut i archebu ymweliad coets neu grŵp
Cysylltwch â ni i gael copi o’n pamffled arbennig ar gyfer gweithredwyr teithiau, neu os oes gennych unrhyw ymholiad neu unrhyw fath arall o archeb grŵp.
Cyfryngau cymdeithasol