Nantclwyd y Dre: rhestr brisiau
Cymerwch olwg ar ein holl brisiau mynediad i’ch helpu gyda chynllunio eich ymweliad perffaith â’n safle treftadaeth nodedig.
Rhestr brisiau:
Mynediad cyffredinol
Mae tocynnau mynediad cyffredinol yn caniatáu mynediad i Dŷ a Gerddi Nantclwyd y Dre.
Prisiau mynediad cyffredinol
| Math o docyn | Pris |
| Pris |
£9.00 |
| Plentyn rhwng 5 ac 16 oed |
£7.00 |
| Plentyn o dan 5 oed |
Am ddim |
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 o blant) |
£25.00 |
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 o blant) |
£16.00 |
| 1 gofalwr yn dod gydag ymwelydd anabl |
Am ddim |
Prisiau grŵp
Mae Nantclwyd y Dre yn cynnig diwrnod hynod ddiddorol i grwpiau o 15 o bobl neu fwy.
Dysgwch fwy am ymweliadau grŵp
Prisiau grŵp
| Prisiau grŵp | Prisiau grŵp |
| Grŵp o o leiaf 15 o bobl yn ystod oriau agor yr haf |
£7.50 yr un |
| Grŵp o o leiaf 15 o bobl pan fyddwn wedi cau dros y gaeaf |
£7.50 yr un, yn ogystal â £50 ychwanegol fesul grŵp |
Mynediad i’r ardd yn unig
Dewch i ymweld â gerddi tawel Nantclwyd y Dre i fwynhau’r lleoliad awyr agored heddychlon a hardd.
Prisiau mynediad i’r ardd yn unig
| Math o docyn | Pris |
| Oedolyn (y gerddi’n unig) |
£4.00 |
| Plentyn rhwng 5 ac 16 oed (y gerddi’n unig) |
£3.00 |
| Plentyn o dan 5 oed (y gerddi’n unig) |
Am ddim |
Tocynnau gardd
Mae tocyn gardd yn cynnig mynediad rhwydd i'n gerddi hardd drwy gydol y tymor, yn ogystal â gostyngiad o 20% oddi ar bris mynediad i’r tŷ.
Dysgwch fwy am y tocynnau gardd.
Prisiau tocynnau gardd
| Math o docyn | Pris |
| Tocyn gardd oedolyn |
£10.00 |
| Tocyn gardd i deulu (4 o bobl gan gynnwys o leiaf un plentyn) |
£15.00 |
| Tocyn gardd newydd yn lle un sydd wedi’i golli neu ei dorri |
£1.00 |
Prisiau llogi
Rydym yn awyddus i’n tŷ hanesyddol gael ei ddefnyddio mewn ffyrdd newydd a chreadigol.
Mannau i'w llogi
Mae gennym ni leoedd ar gael o £10 yr awr yn dibynnu ar ofynion a gallwn ni hefyd gynnig rhai lleoedd am ddim ar sail cyfraniad ar adegau penodol.
Mannau i'w llogi yn cynnwys:
Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil, Adnewyddu Addunedau a Dathliadau Swyddogol
Os ydych yn credu mai Nantclwyd y Dre yw’r lleoliad iawn ar gyfer eich dathliad, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein boddau cael clywed eich cynlluniau a syniadau ar gyfer eich diwrnod arbennig, a gweithio gyda chi i sicrhau eu bod yn digwydd!
Mwy am Priodasau Sifil a Phartneriaethau Sifil, Adnewyddu Addunedau a Dathliadau Swyddogol yn Nantclwyd y Dre.
Archwiliadau Paranormal
Pris cynnal ymchwiliad paranormal yn Nantclwyd y Dre yw £650 (ni chodir TAW).
Gofynnir am flaendal o 50%, sef £325, o fewn 5 diwrnod gwaith i sicrhau unrhyw archeb, ac mae’n rhaid talu’r balans llawn bedair wythnos cyn y digwyddiad.
Mwy am archwiliadau Paranormal am Nantclwyd y Dre.
Lleoliad ffilmio
Mae’r prisiau yn seiliedig ar anghenion prosiectau unigol a ffactorau fel natur dymhorol y safle, gofynion staffio a ffactorau trwyddedu eraill. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
Mae TAW yn daladwy ar gyfer ffilmio yn y lleoliad.
Mwy am lleoload ffilmio yn Nantclwyd y Dre.
Llogi cyffredinol
Mae Nantclwyd y Dre’n cynnig lleoliad unigryw ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, digwyddiadau a dathliadau, gyda chapasiti mewnol o hyd at 45-60, a thros 100 ar gyfer digwyddiadau yn yr awyr agored.
Cysylltwch â ni i drafod dewisiadau prisiau.
Mwy am llogi cyffredinol.
Ymweliadau ysgolion
Mae Nantclwyd y Dre yn dod â hanes yn fyw mewn modd cyffrous a chofiadwy, er mwyn helpu dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Dysgwch fwy am ymweliadau ysgolion
Prisiau ymweliadau ysgolion
| Prisiau ymweliadau ysgolion | Pris |
| Grwpiau ysgol yn ymweld yn ystod oriau agor yr haf |
Disgyblion: £5 yr un Athrawon: am ddim |
| Grwpiau ysgol yn ymweld pan fyddwn wedi cau dros y gaeaf |
Disgyblion: £5 yr un Athrawon: am ddim £50 ychwanegol fesul grŵp |
Cyfryngau cymdeithasol