Beth am Chwarae Allan - Haf 2025 

Mae Gadewch i ni Chwarae Allan yn sesiynau chwarae a gynhelir gan Wasanaeth Ceidwaid Chwarae Sir Ddinbych ac yn darparu cyfleoedd chwarae mynediad agored i blant yn eu cymunedau lleol, gan roi cyfle iddynt:

  • chwarae
  • cael hwyl
  • gwneud llanast a bod yn fwdlyd
  • gwneud ffrindiau

Mae gan y sesiynau hyn bolisi mynediad agored, sy’n golygu bod y bobl ifanc yn rhydd i adael y sesiwn unrhyw bryd.

Mae gennym bolisi mynediad agored ar gyfer y sesiynau hyn sy’n golygu y bydd rhwydd hynt i bobl ifanc adael y sesiwn ar unrhyw adeg. 

Plant yn chwarae gyda baner lliwgar

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau? 

Mae’r sesiynau’n cael eu hargymell ar gyfer plant 6 i 13 oed.

Mae croeso i blant dan 6 oed ond bydd yn rhaid iddyn nhw fod yng nghwmni oedolyn.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?

Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Beth am Chwarae Allan yn digwydd:

Corwen

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan yng Nghorwen eu cynnal o 2pm tan 3:30pm yn Maes Chwarae Clawdd Poncen ar:

  • Dydd Llun 21 Gorffennaf 2025
  • Dydd Llun 28 Gorffennaf 2025
  • Dydd Llun 4 Awst 2025
  • Dydd Llun 11 Awst 2025
  • Dydd Llun 18 Awst 2025

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Cyfeiriad Maes Chwarae Clawdd Poncen yw

46 Clawdd Poncen
Corwen
LL21 9RT

Denbigh

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Ddinbych eu cynnal o 2pm tan 3:30pm yn Cae Hywel ar:

  • Dydd Iau 24 Gorffennaf 2025
  • Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025
  • Dydd Iau 7 Awst 2025
  • Dydd Iau 14 Awst 2025
  • Dydd Iau 21 Awst 2025
  • Dydd Iau 28 Awst 2025

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Cae Hywel yw

Maes Y Goron
Dinbych
LL16 3PY

Parcio

Gallwch barcio yn maes parcio Mount Pleasant

Dyserth

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Dyserth eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd yn Cae Chwarae King George V ar:

  • Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mawrth 5 Awst 2025
  • Dydd Mawrth 12 Awst 2025
  • Dydd Mawrth 19 Awst 2025
  • Dydd Mawrth 26 Awst 2025

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Sut i gyrraedd Cae Chwarae King George V

Parcio

Mae yna faes parcio bychan ger cae chwarae King George V

Gallt Melyd

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Gallt Melyd eu cynnal o 2pm tan 3:30pm am Caeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd ar:

  • Dydd Gwener 25 Gorffennaf 2025
  • Dydd Gwener 1 Awst 2025
  • Dydd Gwener 8 Awst 2025
  • Dydd Gwener 15 Awst 2025
  • Dydd Gwener 22 Awst 2025
  • Dydd Gwener 22 Awst 2025

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Cyfeiriad Caeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd yw

Caeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd
Meliden
LL19 8PE

Parcio

Nid oes lle i barcio yng Nghaeau Chwarae a Llecyn Gemau Amlddefnydd Gallt Melyd

Llangollen

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Llangollen eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd yn Ysgol Bryn Collen ar:

  • Dydd Llun 21 Gorffennaf 2025
  • Dydd Llun 28 Gorffennaf 2025
  • Dydd Llun 4 Awst 2025
  • Dydd Llun 11 Awst 2025
  • Dydd Llun 18 Awst 2025

Gwybodaeth am y Lleoliad

Darganfyddwch sut i gyrraedd Ysgol Bryn Collen

Llanelwy

Cynhelir y sesiwn Beth am Chwarae Allan yn Llanelwy o 2pm tan 3:30pm am Parc Stryd Isaf Llanelwy ar:

  • Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mawrth 5 Awst 2025
  • Dydd Mawrth 12 Awst 2025
  • Dydd Mawrth 19 Awst 2025
  • Dydd Mawrth 26 Awst 2025

Gwybodaeth am y Lleoliad

Cyfeiriad Parc Stryd Isaf Llanelwy yw:

Stryd Fawr Isaf
Llanelwy
LL17 0SG.

Prestatyn

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Prestatyn eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd am maes chwarae Coed Y Morfa ar:

  • Dydd Gwener 25 Gorffennaf 2025
  • Dydd Gwener 1 Awst 2025
  • Dydd Gwener 8 Awst 2025
  • Dydd Gwener 15 Awst 2025
  • Dydd Gwener 22 Awst 2025
  • Dydd Gwener 22 Awst 2025

Gwybodaeth am y lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Cyfeiriad

Cyfeiriad maes chwarae Coed Y Morfa yw

Lon Goed
Prestatyn
LL18 8ED

Parcio

Gallwch barcio yn y Morfas.

Rhuddlan

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan ym Rhuddlan eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd am Meysydd yr Admirals ar:

  • Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mercher 13 Awst 2025
  • Dydd Mercher 20 Awst 2025
  • Dydd Mercher 27 Awst 2025

Gwybodaeth am y lleoliad

Cyfeiriad

Cyfeiriad yw

Meysydd yr Admirals
Rhuddlan
LL18 2TQ

Parcio

Mae parcio cyfyngedig ar gael.

Rhuthun

Caiff y sesiynau Beth am Chwarae Allan yn Rhuthun eu cynnal o 10:30am tan 12 hanner dydd am Cae Ddol ar:

  • Dydd Iau 24 Gorffennaf 2025
  • Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025
  • Dydd Iau 7 Awst 2025
  • Dydd Iau 14 Awst 2025
  • Dydd Iau 21 Awst 2025
  • Dydd Iau 28 Awst 2025

Gwybodaeth am y Lleoliad

Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.

Sut i gyrraedd Cae Ddol (gwefan allanol)

Parcio

Gallwch barcio yng Nghae Ddol

Y Rhyl

Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan y Rhyl eu cynnal o 3pm tan 4:30pm am Ysgol Christchurch ar:

  • Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mercher 13 Awst 2025
  • Dydd Mercher 20 Awst 2025
  • Dydd Mercher 27 Awst 2025

Gwybodaeth am y lleoliad

Cyfeiriad

Cyfeiriad Ysgol Christchurch yw:

Ernest Street
Y Rhyl
LL18 2DS

Parcio

Ar hyn o bryd nid oes lle i barcio ger Ysgol Christchurch.

Plant yn chwarae y tu allan

Sut i gymryd rhan

Bydd angen i rieni neu warcheidwaid plant chwe blwydd oed a hŷn gofrestru eu plant ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.

Os yw’ch plentyn yn iau na chwe blwydd oed, nid oes angen ichi gofrestru. Siaradwch ag aelod o’r tîm wrth gyrraedd i roi gwybod y bydd eich plentyn yn cymryd rhan a sôn am unrhyw anghenion y dylent wybod amdanynt.

Sesiynau Cwbl Gynhwysol

Mae ein holl sesiynau’n gwbl gynhwysol a gallwch roi gwybod inni am unrhyw anghenion wrth gofrestru’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.

Cofrestru’ch plentyn

Gallwch gofrestru’ch plentyn ar-lein ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae a byddant yn gallu dod i unrhyw un o’n sesiynau wedyn.

Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru’ch plentyn, a byddant yn cael dod i unrhyw un o’n sesiynau Ceidwad Chwarae nes byddant yn rhy hen.

Cofrestrwch eich plentyn ar-lein ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae