Ceidwad Chwarae: Bwyd a Hwyl
Sesiynau chwarae mynediad agored boreol yw sesiynau Bwyd a Hwyl lle bydd cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau gyda brecwast yn cael ei ddarparu.
Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:
- Chwaraeon Amrywiol
- Celf a chrefft
- Gemau
- Adeiladu den
- Coginio pwll tân
- a mwy
Mae gan y sesiynau hyn bolisi mynediad agored, sy’n golygu bod y bobl ifanc yn rhydd i adael y sesiwn unrhyw bryd.
Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae sesiynau Bwyd a Hwyl ar gyfer plant rhwng 8 a 14 oed.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Mae sesiynau yn digwydd rhwng 9:30am a 11am yn Canolfan Ieuenctid Prestatyn ar:
- Dydd Llun 4 Awst 2025
- Dydd Llun 11 Awst 2025
- Dydd Llun 18 Awst 2025
Dewch o hyd i sut i gyrraedd Canolfan Ieuenctid Prestatyn.
Sut i gymryd rhan
Bydd angen i rieni neu warcheidwaid plant gofrestru eu plentyn ar gyfer sesiynau Bwyd a Hwyl.
Sesiynau Cwbl Gynhwysol
Mae ein holl sesiynau’n gwbl gynhwysol a gallwch roi gwybod inni am unrhyw anghenion wrth gofrestru’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.
Cofrestru’ch plentyn
Gallwch gofrestru eich plentyn ar gyfer sesiynau Bwyd a Hwyl ar-lein.
Cofrestrwch eich plentyn ar gyfer sesiynau Bwyd a Hwyl ar-lein
Mwy o wybodaeth
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y sesiwn yma, gellwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae.