Cwrdd â’r tîm Ceidwaid Chwarae

Mae ein tîm Ceidwaid Chwarae yn hynod fedrus a phrofiadol ac wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd chwarae diogel i holl blant a phobl ifanc i ddatblygu iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol.

Cydlynydd Chwarae Hygyrch

Mae'r Cydlynydd Chwarae Cynhwysol yn trefnu gweithgareddau chwarae i bob plentyn gael eu cynnal yn adeiladau'r cyngor, parciau, ysgolion a mannau agored yn Sir Ddinbych.

Mae'r Cydlynydd Chwarae Cynhwysol hefyd yn helpu i gynnal y gweithgareddau chwarae.

Ruth

Ruth

Mae gan Ruth 20 mlynedd o brofiad gweithio gyda phlant a phobl ifanc fel hyfforddwr pêl-droed ac mewn Datblygu Chwaraeon.

Mae Ruth yn unigolyn cyfeillgar a brwdfrydig sy’n dod â llawer o egni i’r tîm.


Ceidwaid Chwarae 

Mae Ceidwaid Chwarae yn hwyluso a hyrwyddo cyfleoedd chwarae, a chynnwys pob plentyn beth bynnag yw eu gallu.

Ellie

Ellie

Mae gan Ellie 14 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant o bob oed mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Sir Ddinbych.

Mae ganddi lefel 3 mewn gofal plant ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithio tuag at ei lefel 3 mewn gwaith chwarae. Mae Ellie yn aelod brwdfrydig iawn o’r tîm ac mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda phlant a bod allan yn yr awyr agored. 


Vicky

Vicky

Mae gan Vicky brofiad o weithio gyda phlant o bob oedran a gallu, ar ôl gweithio fel athrawes a hyfforddwraig chwaraeon yn flaenorol.

Mae Vicky yn aelod hyderus o’r tîm sy’n angerddol am weithio gyda phlant.


Ceidwaid Chwarae Cynorthwyol

Mae Ceidwaid Chwarae yn hwyluso a hyrwyddo cyfleoedd chwarae, a chynnwys pob plentyn beth bynnag yw eu gallu.

Ella

Ella

Mae gan Ella 6 mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant mewn ystod o wahanol leoliadau, yn enwedig gwaith chwarae. Mae ganddi gymwysterau lefel 2 a lefel 3 mewn gofal plant.

Mae Ella yn treulio ei hamser sbâr yn cadw cymunedau lleol yn ddiogel drwy wirfoddoli fel cwnstabl arbennig gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r hyfforddiant a’r profiad mae wedi’i gael yn gaffaeliad mawr i’r swydd hon.


Ethan

Ethan

Mae Ethan wedi gweithio i’r gwasanaeth chwarae ers dwy flynedd. Mae’n frwdfrydig ac agos atoch ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn pêl droed ac yn mwynhau gwaith yn yr awyr agored.

Ar wahân i’w waith gyda’r gwasanaeth chwarae, mae Ethan hefyd yn gweithio fel achubwr bywyd.


Finley

Finley

Mae Finley wedi bod yn gweithio i’r gwasanaeth chwarae am dros flwyddyn bellach ac mae bob amser yn hapus i fod mewn sesiwn.

Mae’n mwynhau amrywiaeth o chwaraeon ac mae wrthi’n cwblhau ei gymhwyster hyfforddi tu allan i’r gwaith.


Grace

Grace

Mae gan Grace bum mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant mewn amryw o leoliadau gwahanol yn cynnwys hyfforddi pêl-droed, addysgu nofio a gwirfoddoli mewn ysgolion cynradd.

Mae Grace yn unigolyn brwdfrydig a chyfeillgar gydag angerdd dros weithio gyda phlant. 


Ollie

Ollie

Mae Ollie yn mynychu’r chweched dosbarth ac yn astudio Gwasanaethau Cyhoeddus, Troseddeg a Chwaraeon. Mae ganddo frwdfrydedd diddiwedd at chwaraeon ac yn perfformio’n dda mewn sesiynau.

Mae’n aelod poblogaidd o’r tîm Ceidwaid Chwarae yn arbennig pan mae pêl-droed yn y cwestiwn.


Olly

Oliver

 

Cwblhaodd Olly ysgoloriaeth gyda Chlwb Pêl-droed Caer oedd yn cynnwys lefel 2 a 3 mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae ganddo brofiad o hyfforddi pêl-droed i blant mae’n ei wneud yn wirfoddol mewn cymunedau lleol.

Mae’n angerddol iawn am bêl-droed a throsglwyddo’r sgiliau mae wedi eu dysgu.


Davi

Davi

 

Mae Davi wedi gweithio gyda phlant fel cymorthydd addysgu ac mae ganddo brofiad helaeth o gynnig cefnogaeth un i un yn ogystal â darparu cefnogaeth yn ystod gwyliau.

Mae’n unigolyn hynod frwdfrydig gyda brwdfrydedd gwirioneddol yn eu swydd a thuag at y plant mae’n gweithio gyda nhw.