Cymorth gyda mynediad at ddata symudol
Data symudol ar gyfer pobl mewn tlodi data
Rydym yn gweithio gyda Good Things Foundation (gwefan allanol) i ddosbarthu SIMs am ddim a data symudol i bobl leol sy'n byw mewn tlodi data. Cefnogir y cynllun National Databank (gwefan allanol) gan rwydweithiau symudol y DU gan gynnwys Vodafone, O2 a Three.
Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych ac yn bodloni'r meini prawf cymhwyster, gallwch gofrestru eich diddordeb i gymryd rhan. Gallwch hefyd gofrestru diddordeb ar ran pobl eraill os ydych yn adnabod rhywun a fyddai'n elwa o ddata symudol am ddim.
I fod yn gymwys i gael mynediad i'r Banc Data Cenedlaethol mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed ac yn dod o gartref incwm isel. Mae angen i chi hefyd fodloni un neu fwy o'r meini prawf canlynol:
- nid oes gennych ddigon o fynediad i'r rhyngrwyd gartref, os o gwbl
- nid oes gennych ddigon o fynediad i'r rhyngrwyd oddi cartref, os o gwbl
- ni allwch fforddio eich contract misol presennol neu ychwanegiad
Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i'r Banc Data Cenedlaethol os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol.
Mynegwch eich diddordeb