Asesiadau diagnostig ar gyfer awtistiaeth

Mae cael diagnosis o awtistiaeth yn gofyn am asesiad manwl.

Ar hyn o bryd mae rhestrau aros hir ar gyfer asesiadau.

Mae cymorth ar gael i bobl sy’n dangos arwyddion o awtistiaeth tra maen nhw’n aros am asesiad.

Darganfyddwch am y cymorth lleol sydd ar gael.

Sut mae cael diagnosis o awtistiaeth

Gallwch ddarllen y canllawiau y mae gweithwyr proffesiynol yn eu dilyn pan fyddent yn cyflawni asesiad diagnostig ar gyfer awtistiaeth ar wefan Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE):

Plant o dan 5 oed

Os yw plentyn o dan 5 oed ac yn dangos arwyddion o awtistiaeth, dylai gweithiwr proffesiynol iechyd neu addysg (staff ysgol neu cyn-ysgol) gyfeirio at y Paediatrydd cymunedol lleol yn y lle cyntaf.

Gall gweithwyr proffesiynol gyfeirio’n uniongyrchol at Dîm Newroddatblygiad Blynyddoedd Cynnar Sir Ddnbych ar gyfer ystyried asesiad diagnostig, gan gymryd i ystyriaeth bod y plentyn angen bod o dan paediatrydd cymunedol i’r atgyfeiriad gael ei ystyried.

Plant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed

Gwasanaeth Niwroddatblygiadol GIG Gogledd Cymru sy’n gyfrifol am drefnu neu gyflawni asesiadau diagnostig plant.

Darganfyddwch fwy am Wasanaeth Niwroddatblygiadol GIG Cymru  

Gall ysgol neu feddyg teulu atgyfeirio plentyn sy’n dangos arwyddion o awtistiaeth at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS). Bydd CAMHS yn sgrinio’r atgyfeiriad a lle bo hynny’n briodol yn ei anfon ymlaen at y tîm niwroddatblygiadol am benderfyniad.

Canllawiau wrth gael asesiad ar gyfer plant a phobl ifanc

Wrth ofyn am asesiad ar gyfer plentyn neu berson ifanc, mae’n bwysig ystyried:

  • sut fyddai diagnosis o awtistiaeth yn effeithio ar y plentyn neu bobl ifanc yr ydych yn gyfrifol amdanynt
  • gall diagnosis o awtistiaeth helpu rhai plant a’u teuluoedd i ddeall eu hunain/y plentyn yn well
  • weithiau gall diagnosis effeithio ar ymdeimlad plentyn o bwy ydyn nhw

Mae Cerebra, elusen sy’n helpu plant a phobl ifanc gyda chyflyrau ar yr ymennydd, wedi creu taflen ffeithiau i ddarparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i rieni yng Nghymru sy’n amau bod gan eu plant awtistiaeth.

Cerebra: Asesiadau a diagnosis awtistiaeth yng Nghymru (gwefan allanol)

Asesiadau diagnostig ar gyfer oedolion

Ar gyfer oedolion yn Sir Ddinbych, mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru (NWIAS) yn cynnig asesiadau diagnostig i fwyafrif o bobl 18 oed a hŷn.

Darganfyddwch sut i gael asesiad diagnostig awtistiaeth gan NWIAS (gwefan allanol)

Mae NIWAS hefyd yn darparu:

  • Cefnogaeth i helpu pobl awtistig i ddeall eu diagnosis o awtistiaeth
  • Sesiynau galw heibio ar gyfer pobl awtistig, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol
  • Adnoddau, cyngor a chefnogaeth ar gyfer pobl awtistig a’u teuluoedd, (gan gynnwys rhieni/gofalwyr plant awtistig).
  • Cyrsiau Deall Awtistiaeth rheolaidd ar gyfer pob sydd newydd gael diagnosis o awtistiaeth.

Nid yw’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cynnig asesiadau diagnostig i bobl sydd eisoes yn cael eu cefnogi gan dîm anabledd dysgu neu wasanaeth iechyd meddwl cymunedol. Dan yr amgylchiadau hyn, dylai’r tîm anabledd dysgu neu wasanaeth iechyd meddwl cymunedol drefnu asesiad diagnostig.