Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gall Un Pwynt Mynediad ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am y gofal a’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael i oedolion.
Mae’r Tîm Teuluoedd Integredig Lleol yn dîm aml asiantaeth a all helpu teuluoedd i ddeall ac ymateb i ymddygiad heriol adref.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu pobl i ddod o hyd i waith, profiad gwaith a rolau gwirfoddoli.
Mae Conwy Connect yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan ei aelodau ac sy’n gwasanaethu pobl o bob rhan o Ogledd Cymru. Yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar gyfer pobl o bob oed mae ganddynt brosiectau Pontio, Iechyd, Ymgysylltu a Hunan-eiriolaeth.
Mae STAND North Wales CIC yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan rieni sydd yn cefnogi teuluoedd ac oedolion sydd ag anghenion ychwanegol ac anableddau, ac mae’n cynnig amrywiaeth o hyfforddiant, grwpiau cefnogi i rieni, a gweithgareddau o fewn y gymuned.
Mae cangen Conwy a Sir Ddinbych o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth yn ogystal â chynnal grwpiau a digwyddiadau cymdeithasol.
Mae gwasanaethau eirioli yn darparu eiriolaeth annibynnol i oedolion, plant a phobl ifanc sydd ag anableddau cymhleth, yn cynnwys cyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth.
Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn helpu pobl awtistig i ddeall eu diagnosis o awtistiaeth, yn ogystal â chynnal sesiynau galw heibio a chyrsiau hyfforddi ar gyfer oedolion sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar.
Dysgwch fwy am y gefnogaeth i ofalwyr a rhieni plant awtistig.
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn cefnogi amrywiaeth o grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws y sir.
Gwybodaeth ynglŷn â chefnogi plant a phobl ifanc gydag anawsterau a/neu anableddau dysgu.
Browser does not support script.