Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol: Gwybodaeth i ddarparwyr gofal cymdeithasol

Mae’r Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn darparu rhaglen hyfforddiant a datblygu cynhwysfawr ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol. Nod y rhaglen yw darparu atodiad sylweddol i’r hyn mae cyflogwyr yn ei ddarparu o ran darpariaeth hyfforddi, datblygu a chymhwyster effeithiol ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae’r hyfforddiant wedi cael ei ddylunio o amgylch anghenion dysgu'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwasanaethau a gomisiynir a grwpiau annibynnol/sector gwirfoddol o fewn Sir Ddinbych. Mae gofalwyr di-dal hefyd yn gymwys ar gyfer ein hyfforddiant.

Mae cyrsiau yn cynnwys ystod eang o bynciau felly darllenwch y taflenni gwybodaeth yn drylwyr i sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir yn briodol ar gyfer eich rôl. Disgwylir i staff fynychu ar gyfer hyd yr hyfforddiant er mwyn derbyn tystysgrif a ellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhau ar gyfer dibenion cofrestru.

Nid oes tâl i fynychu ein cyrsiau, fodd bynnag efallai bydd tâl canslo yn gymwys am beidio mynychu os na roddir digon o rybudd.

Byddwn yn rhannu dyddiadau ein cwrs hyfforddiant dros e-bost. I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael eich ychwanegu at ein rhestr ddosbarthu e-bost, cysylltwch â ni:

Cysylltu â'r Tîm Datblygu'r Gweithlu

Iechyd a Lles

Isod mae rhestr o sefydliadau a ffynonellau o wybodaeth i gefnogi iechyd a lles gweithwyr neu ddinasyddion:

Canopi

A ydych yn teimlo’n bryderus neu’n teimlo bod y cyfan yn ormod i chi ac na allwch barhau fel hyn? Neu efallai eich bod yn teimlo allan o reolaeth neu’n ofnus - nid ydych ar eich pen eich hunan. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio’r pandemig Covid-19 fel "sefyllfa unigryw ac ansicr" i nifer o weithwyr y rheng flaen.

Ceisiwch gymorth nawr - peidiwch ag oedi, ewch i gael cefnogaeth gan y gwasanaethau a restrir. 

Mae Canopi yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy’n darparu mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl a lles i staff gofal cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru. Mae Canopi ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ffoniwch 0800 058 2738 neu anfonwch e-bost at canopi@cardiff.ac.uk. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â canopi.nhs.wales (gwefan allanol).

Adnoddau Lles Gofal Cymdeithasol Cymru

Gallwch ddod o hyd i ystod eang o adnoddau a dolenni i gefnogi eich iechyd a lles trwy Hwb Adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru (gwefan allanol).

Darllen yn Well

Mae Darllen yn Well (gwefan allanol) yn helpu pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u lles drwy ddarllen llyfrau sy’n helpu. Mae arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl gyda phrofiad go iawn o’r cyflyrau a thestunau a gynhwysir a’u perthnasoedd a gofalwyr, yn argymell yr holl lyfrau. Gellir argymell llyfr i chi gan weithiwr proffesiynol iechyd, neu allwch ymweld â'ch llyfrgell leol a benthyg llyfr eich hun.

Cewch wybod mwy ar wefan Darllen yn Well.

Lles

Gallwch ddod o hyd i ystod eang o wybodaeth yn ymwneud â lles ar ein gwefan.

Gwybodaeth ac adnoddau cyffredinol ar-lein

Atal a Rheoli Heintiau

Mae arferion atal a rheoli heintiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn hanfodol ar gyfer cynnal amgylchedd diogel i bawb a lleihau’r risg o ledaenu heintiau ac afiechydon heintus.

Mewn partneriaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygiad Atal a Rheoli Heintiau Cymru Gyfan ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant (gwefan allanol).

Atal a rheoli heintiau (gwefan allanol)

Gofal ardaloedd pwysau

Gofal y geg

Gofal traed

Maeth a hydradiad

Cwympiadau

Cwympiadau a bagladau mewn iechyd a gofal cymdeithasol (gwefan allanol) - Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Diwedd oes a gofal lliniarol

Technoleg gynorthwyol

Nam ar y synhwyrau

Dementia

Iechyd meddwl

Camddefnyddio sylweddau