Hyfforddiant ar gyfer gofal cymdeithasol

Rydym yn darparu cyrsiau hyfforddi am ddim ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol ar draws y sector cyfan yn Sir Ddinbych.

Cyrsiau hyfforddiant ar gyfer gofal cymdeithasol Sir Ddinbych

Ar hyn o bryd rydym yn parhau i weithio ar gyflwyno ein dysgu mewn ffordd gyfunol drwy sesiynau rhithwir ac e-ddysgu a rhai cyrsiau hanfodol wyneb yn wyneb. Os hoffech chi unrhyw wybodaeth am ein cyrsiau, neu dderbyn copi o newyddlen ein gweithlu, anfonwch neges e-bost i scwdp@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01824 706610.

Rydym wedi gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol, aelodau'r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol, a thimau rheoli'r awdurdod lleol i restru beth yw'r anghenion hyfforddi, ac rydym wedi cynllunio'r hyfforddiant ar sail y rhain.

Rhaglen hyfforddiant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2023 i 2024 (PDF, 303KB)

Mae'r holl hyfforddiant am ddim.

Pwy sy'n gallu gwneud cais am hyfforddiant?

Mae unrhyw un sy’n ymgymryd â dyletswyddau gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn gallu ymgeisio am hyfforddiant. Mae cyrsiau ar gael i ddarparwyr gofal yn y sector annibynnol a’r trydydd sector yn Sir Ddinbych: staff o’r awdurdod lleol neu’r sector statudol, gofalwyr maeth, gofalwyr teuluoedd di-dâl, pobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol a’u cymorthyddion personol.

Mae uchafswm o ddau le ar gael fesul sefydliad ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau.

Bydd manylion cyrsiau neu raglenni hyfforddiant yn cael eu hanfon dros e-bost at bob partner ar ein rhestr bostio. Os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, cysylltwch â ni:

Cysylltu â'r Tîm Datblygu'r Gweithlu

Sut mae neilltuo lle ar gwrs?

Gallwch chi neilltuo lle ar gwrs trwy wneud cais ar-lein isod:

Gwneud cais am le ar gwrs hyfforddiant

Fel arall, gallwch chi lawrlwytho a llenwi'r ffurflen neilltuo lle a'i hanfon at:

Tîm Datblygu Gweithlu,
Gwasanaethau Oedolion a Busnes,
Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ.

Ffurflen gais hyfforddiant iechyd a gofal cymdeithasol (MS Word, 1.03MB)

Y cyntaf i'r felin yw'r drefn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych wedi llwyddo i gael lle ar gwrs o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn eich ffurflen neilltuo lle.

Darperir yr hyfforddiant hwn fel rhan o'r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (PDGGC).

Swyddi gwag mewn gofal