Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol
Mae'r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (PDGGC) yn darparu rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr flynyddol ar draws gofal cymunedol, gwasanaethau plant a theuluoedd a datblygu rheolwyr.
Mae'r rhaglen hon yn agored i ddarparwyr allanol, neu sefydliadau gofal cymdeithasol priodol eraill sy'n gweithio yn Sir Ddinbych, sy'n darparu gwasanaethau wedi eu comisiynu ar gyfer oedolion a phlant a theuluoedd.
Datblygu a Hyfforddi Gweithlu Gofal Cymdeithasol
Ein nod yw gweithredu dull 'sector cyfan' wrth geisio bodloni gofynion hyfforddi a chyrraedd targedau cymhwyster. Ceisiwn gefnogi'r rhai sy'n cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol gyda hyfforddiant, datblygiad proffesiynol parhaus a materion yn ymwneud â'r gweithlu.
Mae'r PDGGC yn gynllun cenedlaethol, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Gallwch gael gwybodaeth ynglŷn â faint o arian y mae pob awdurdod lleol yn ei dderbyn yn y cylchlythyr blynyddol.
Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (PDF, 300KB)
Strategaeth gyfathrebu y PDGGC 2019 i 2020
Yn unol â Strategaeth Gwybodaeth Gyhoeddus 2015 i 2017 a Safonau’r Iaith Gymraeg, bydd y bartneriaeth yn ymdrechu bob amser i gyflawni’r egwyddorion canlynol o ran gwybodaeth gyhoeddus a gwybodaeth a gyhoeddir ar wefan Sir Ddinbych:
- Rydym yn cynhyrchu ein gwybodaeth gyhoeddus yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), ac mewn ieithoedd ac ar ffurfiau eraill ar gais, yn unol â safonau corfforaethol ac arferion da cymeradwy
- Mae tudalennau gwe’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth fanwl am ein gwasanaethau ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gyfathrebu â’n gwasanaethau ar-lein. Rydym hefyd yn darparu dolenni cyswllt at gynlluniau hyfforddiant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Sir Ddinbych, ac yn cyfeirio pobl at adnoddau defnyddiol eraill ar y we, a gwefannau ein partneriaid
- Ein nod yw darparu gwybodaeth a gwasanaethau hygyrch drwy’r wefan. Rydym yn monitro cynnwys ein tudalennau gwe i sicrhau bod dolenni cyswllt ac atodiadau yn briodol, yn gywir ac yn cydymffurfio â’r safonau corfforaethol
- Caiff ein tudalennau eu gwirio’n rheolaidd rhag ofn nad yw’r dolenni ac atodiadau yn gweithio
Cylchrediad
Mae Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Sir Ddinbych yn cyfathrebu â’r sector drwy:
- Sicrhau fod pob aelod o’r bartneriaeth wedi cael manylion Cylchlythyr 2019 i 2020 drwy e-bost ac ar ein tudalen we hyfforddiant Gofal Cymdeithasol
- Bydd dolen gyswllt i’r Cylchlythyr hefyd yn ymddangos yn Newyddlen y Bartneriaeth sy’n cael ei hanfon bob tri mis i holl wasanaethau Sir Ddinbych sy’n cael eu comisiynu, pobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol, sefydliadau yn y trydydd sector a darparwyr nad ydynt yn cael eu comisiynu sydd wedi mynegi diddordeb mewn bod ar ein rhestr gyfathrebu
- Cynhelir cyfarfodydd y Bartneriaeth bedair gwaith y flwyddyn ac adolygir y Cylch Gorchwyl a’r aelodaeth bob blwyddyn
- Efallai yr ychwanegir diwrnodau hyfforddiant a lleoedd ar gyrsiau wrth iddynt ddod ar gael, ac anfonir e-byst at Bartneriaid i’w hysbysu o hynny. Bydd Partneriaid hefyd yn cael gwybod pan fydd lle(oedd) yn cael eu dyrannu neu os yw cais yn aflwyddiannus
- Bydd Cydlynydd y Bartneriaeth yn cysylltu ag unrhyw wasanaethau newydd sydd wedi’u comisiynu, i’w cynghori ynglŷn â’r Bartneriaeth a’r cynlluniau hyfforddi
Hyfforddiant
Rhaglen hyfforddiant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol 2021 i 2022 (PDF, 428KB)
Ar gyfer dyddiadau a lleoliadau digwyddiadau hyfforddi, gwybodaeth ynglŷn â bod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant, a sut i neilltuo lle, ewch i'n tudalen hyfforddiant ar gyfer gofal cymdeithasol.