Diogelu plant

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, waeth pwy ydynt neu beth yw eu hamgylchiadau. Yn y sefyllfa anodd sydd ohoni, efallai y bydd angen amddiffyn rhai plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed a allai fod mewn perygl o camdriniaeth neu esgeulustod.

Rydym i gyd yn gyfrifol am ddiogelwch aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

Aelodau'r cyhoedd

Os ydych yn pryderu am ddiogelwch neu les plentyn, rhowch wybod i ni:

  • 0345 053 3116: gyda'r nos a phenwythnosau
  • 01824 712200: dydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm a dydd Gwener 9am i 4.30pm

Gallwch chi hefyd anfon ebost at cfsgateway@denbighshire.gov.uk.

Ffoniwch 0345 053 3116, bydd yn costio 2 geiniog y munud yn ychwanegol i dâl mynediad eich cwmni ffôn.

Fidio Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (gwefan allanol)

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, waeth pwy ydynt neu beth yw eu hamgylchiadau.

Mae diogelu yn ymweud ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn rhag niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Rydym i gyd yn gyfrifol am ddiogelwch aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

Beth yw camdriniaeth?

  • Cam-drin yw unrhyw weithred sy'n niweidio rhywun arall, a gall fod ar sawl ffurf.
  • Cam-drin corfforol (e.e. taro, slapio, gwthio, rhwystro rhywun yn gorfforol)
  • Cam-drin emosiynol (e.e. bwlio, gwawdio, bygwth neu fychanu rhywun)
  • Cam-drin geiriol (e.e. gweiddi neu regi)
  • Cam-drin ariannol (e.e. arian neu eiddo yn cael eu cymryd o dan bwysau neu heb ganiatâd)
  • Cam-drin rhywiol (e.e. cyffwrdd nad oes ei eisiau, cusanu neu gyfathrach rywiol)
  • Esgeulustod (e.e. ddim yn cael y gofal priodol, camreoli meddyginiaeth, gwrthod preifatrwydd, dewis neu gyswllt cymdeithasol)
  • Gwahaniaethu (e.e. dioddef camdriniaeth neu esgeulustod ar sail crefydd, diwylliant, rhyw, rhywioldeb neu anabledd)

Mae gennym ddyletswydd statudol i ddiogelu ac i hyrwyddo lles plant, yn unol â Deddf Plant 2004.

Mae'r canlyniadau allweddol ar gyfer lles plant o enedigaeth i fod yn oedolyn, yn cynnwys y gofyniad bod plant yn byw mewn amgylchedd diogel, a'u bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.

Mae gan Lywodraeth Cymru saith nod craidd ar gyfer diogelu plant. Eu nod yw gwneud yn siwr bod pob plentyn:

  • yn cael dechrau da mewn bywyd
  • ag ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysgu
  • yn mwynhau'r iechyd gorau posibl a heb dioddef unrhyw gamdriniaeth, erledigaeth a chamfanteisio
  • yn cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol
  • yn cael clust i wrando arnynt, eu trin gyda pharch, a chydnabod eu hil a'u hunaniaeth ddiwylliannol
  • yn cael cartref diogel a chymuned sy'n cefnogi eu lles corfforol ac emosiynol
  • heb fod dan anfantais oherwydd tlodi

Os ydych yn pryderu am ddiogelwch neu les plentyn, rhowch wybod i ni. Sut i roi gwybod am eich pryderon.

Diogelu mewn ysgolion

Mae gan bawb sy'n dod i gysylltiad a phlant a'u teuluoedd rol i'w chwarae wrth ddiogelu plant. Mae staff ysgol a choleg yn arbennig o bwysig gan eu bod mewn sefyllfa i nodi pryderon yn gynnar a darparu cymorth ar gyfer plant, er mwyn atal pryderon rhag gwaethygu.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wyboaeth am ddiogelu ar wefan Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).

Dogfennau cysylltiedig

Polisi: gwasanaeth datgelu a gwahardd (GDG) (PDF, 4.76MB)