Os ydych chi dan 18 oed ac yn edrych ar ôl aelod o’ch teulu sydd â salwch hirdymor neu anabledd, yna fe all Gofalwyr Ifainc WCD (gwefan allanol) eich helpu. Gallant gynnig:
- cyngor a gwybodaeth
- cefnogaeth un-i-un (a chefnogaeth i’r person rydych chi’n gofalu amdano)
- cyfleoedd i chi gyfarfod â gofalwyr ifanc eraill
- teithiau a gweithgareddau
- rhywun i siarad ar eich rhan
Cewch mwy o wybodaeth ar wefan Gofalwyr Ifanc WCD (gwefan allanol).
Sut i dderbyn cymorth a chefnogaeth
Gall gofalwyr ifanc (dan 18 oed) cael mynediad i gymorth gan Gofalwyr Ifanc WCD a all helpu;
- darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i'ch helpu
- chwilio am grwpiau neu weithgareddau gofalwyr ifanc gerllaw
- cael cefnogaeth gyda'ch ysgol i oresgyn heriau wrth gyfuno dysgu gyda'ch rolau gofalu
- cael cymorth i gyfrifo sut i fynd i brifysgol / dod o hyd i waith wrth i chi ofalu am rywun
Mae Gofalwyr Ifanc WCD hefyd yn trefnu grwpiau cymorth a gweithgareddau ac yn gallu eich cysylltu â gofalwyr ifanc eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
Ewch i gwefan Gofalwyr Ifanc WCD am rhagor o wybodaeth ac i llenwi ffurflen atgyfeirio am cymorth (gwefan allanol).
Beth ydi gofalwr ifanc?
Mae gofalwr ifanc yn aml iawn yn helpu aelod o’r teulu gydag amryw o dasgau a fyddai, fel rheol, yn cael eu gwneud gan y person hwnnw. Fe all y tasgau gynnwys:
- helpu i ymolchi a newid
- helpu gyda meddyginiaethau
- helpu’r person i godi a mynd i’r gwely
- siopa, coginio a glanhau’r tŷ
- casglu budd-daliadau a thalu biliau
- mynd efo’r person i apwyntiadau
- darllen ac egluro cynnwys llythyrau
- cadw cwmni a chodi calon y person
Mae gofalu am rywun yn gallu effeithio ar:
- eich gwaith ysgol / coleg
- eich bywyd cymdeithasol fel cyfarfod â ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau
- yr amser rydych chi’n ei gael i chi’ch hun
- sut rydych chi’n teimlo amdanoch chi’ch hun
Os ydych chi’n ymgymryd â’r dyletswyddau uchod ac os ydych chi’n teimlo eich bod yn ofalwr ifanc, yna cysylltwch â Gofalwyr Ifanc WCD (gwefan allanol)