Rhieni sy’n gofalu am blentyn ag anghenion ychwanegol

Fel rhiant sydd hefyd yn ofalwr, mae eich rôl yn ymestyn y tu hwnt i ddealltwriaeth draddodiadol o gyfrifoldebau arferol rhiant.

Er bod pob rhiant yn darparu gofal, arweiniad a cymorth emosiynol i'w plant, mae rhiant sydd yn gofalu am blentyn ag anghenion ychwanegol yn cymryd cyfrifoldebau ychwanegol, sydd yn aml yn gymhleth oherwydd anabledd, heintiau hirdymor, neu anghenion ychwanegol eu plentyn.

Gall y gofynion ychwanegol hyn weithiau effeithio ar eich lles, iechyd corfforol a'ch cysylltiadau.

Cymorth i gyrchu cymorth

Yn Sir Ddinbych efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ychwanegol i alluogi eich plentyn i gyrchu gofal plant, sesiynau chwarae neu weithgareddau cymunedol eraill, trwy raglenni fel; Dechrau’n Deg, Y Cynnig Gofal Plant i Gymru, Teuluoedd yn Gyntaf neu Seibiant Byr Cymru.

Ein Llywiwyr Lles Anabledd yw'r pwynt cyswllt allweddol ar gyfer teuluoedd sy'n byw yn Sir Ddinbych sy'n gofalu am blentyn neu berson ifanc sydd ag angen a/neu anabledd ychwanegol ac yn helpu gyda:

  • Deall yr hyn sydd ar gael yn eich cymuned i'ch cefnogi chi, eich plentyn/person ifanc a'u brodyr a chwiorydd
  • Mynediad i grwpiau a chyrsiau cymorth i rieni
  • Mynediad i weithgareddau chwarae a hamdden
  • Cyngor ynglyn a budd-daliadau, fel Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
  • Cyngor i ddeall ymddygiadau sy'n gallu bod yn heriol
  • Defnyddio delweddau i gynorthwyo cyfathrebu, arferion a thrawsnewidiadau
  • Deall a hyrwyddo'r pwysigrwydd o arferion cysgu da
  • Cefnogaeth i reoleiddio emosiynol plentyn
  • Help i siarad a lleoliadau addysgol neu weithwyr iechyd proffesiynol

Mae rhagor o wybodaeth am y Llywiwyr Lles Anabledd ynghyd â’u manylion cyswllt yn y daflen wybodaeth isod:

Llywiwr Lles Anabledd (PDF, 145KB)

Asesiad o Anghenion Gofalwr

Gallwch gael asesiad o anghenion gofalwr i ganfod beth yw eich anghenion a pha wasanaethau y gellid eu darparu i’ch cefnogi.

Dysgwch sut i gael asesiad o anghenion gofalwr.

Lwfans Gofalwr a chymorth ariannol

Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o bethau.

Dysgwch fwy am y Lwfans Gofalwr a'r cymorth ariannol sydd ar gael (gwefan allanol)

Rhowch wybod i’ch meddyg teulu a’ch cyflogwr

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’ch meddyg teulu a’ch cyflogwr eich bod yn ofalwr, a gofyn iddynt wneud nodyn o hynny yn eu cofnodion. Mae hyn yn bwysig rhag ofn y bydd argyfwng yn codi. 

Dysgwch fwy am gynllunio ar gyfer argyfwng (gwefan allanol)

Cydbwysedd rhwng gwaith a gofalu

Os ydych chi’n gweithio, gall fod yn anodd cadw cydbwysedd rhwng eich swydd a’ch cyfrifoldebau gofalu.

Dysgwch fwy am gadw cydbwysedd rhwng gwaith a gofalu (gwefan allanol)