Asesiad o anghenion gofalwr

Os ydych chi’n gofalu am rywun fe allwch chi dderbyn asesiad o anghenion gofalwr i weld pa gefnogaeth neu wasanaeth sydd arnoch chi angen i’ch helpu chi gyda’ch rôl ofalu.

Bydd asesiad gofalwr yn asesu:

  • eich rôl ofalu a sut mae’n effeithio ar eich bywyd a’ch lles
  • eich iechyd – problemau corfforol, meddyliol ac emosiynol
  • eich teimladau a’ch dewisiadau ynghylch gofalu
  • gwaith, astudio, hyfforddiant, hamdden
  • perthnasoedd, gweithgareddau cymdeithasol a’ch nodau
  • tai
  • cynllunio at argyfwng

Pwy sy’n gallu derbyn asesiad o anghenion gofalwr?

Gall unrhyw ofalwr sy’n darparu gofal di-dâl i rywun gydag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol dderbyn asesiad.

Sut i dderbyn asesiad o anghenion gofalwr?

Gofalwyr sy’n oedolion

Os ydych chi’n ofalwr ac yn 18 oed neu hŷn fe allwch chi gysylltu â’r tîm Un Pwynt Mynediad i drefnu asesiad o anghenion gofalwr

Gallwch gysylltu â Un Pwynt Mynediad drwy:

  • Ffonio 0300 4561000 rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10am a 4pm ar benwythnosau a Gwyliau Banc (ac eithrio Dydd Nadolig a Sul y Pasg). Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn)
  • Cysylltu â Un Pwynt Mynediad ar-lein

Gofalwyr ifanc

Gall gofalwyr ifanc (dan 18 oed) dderbyn asesiad o anghenion gofalwr drwy;