Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid

Mae'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLS) yn darparu diogelwch cyfreithiol i bobl ddiamddiffyn mewn ysbyty neu gartref gofal, sydd efallai angen cyfyngu ar eu rhyddid er mwyn eu diogelu rhag niwed difrifol.

Beth yw colli rhyddid?

Mae pobl sydd heb y gallu i wneud eu penderfyniadau eu hunain am eu gofal neu driniaeth angen mwy o ddiogelwch nag eraill, er mwyn sicrhau nad ydynt yn dioddef niwed. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu cyfyngu ar eu rhyddid.

Er enghraifft, efallai bod angen atal rhywun rhag gadael yr ysbyty neu gartref gofal, neu efallai bod staff yn gorfod gwneud y rhan fwyaf o'r dewisiadau ar gyfer person yn y cartref gofal. Os oes yna lawer o gyfyngiadau fel hyn, mae'n bosibl bod y person yn colli ei ryddid.

Dylai ysbytai a chartrefi gofal bob amser geisio osgoi hyn, ond weithiau does dim dewis ond amddifadu rhywun o’u rhyddid gan ei fod er mwyn eu lles.

Beth yw'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid?

Mae'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn berthnasol i unrhyw un:

  • sy’n 18 oed neu hŷn
  • mewn cartref preswyl neu nyrsio, neu yn glaf mewnol mewn ysbyty (GIG neu breifat)
  • sy’n dioddef o anhwylder meddwl neu anabledd meddwl – e.e. dementia, neu anabledd dysgu dwys
  • sydd â’r diffyg gallu i gydsynio â'r trefniadau a wnaed ar gyfer eu gofal neu driniaeth

Nid yw'r trefniadau diogelu yn berthnasol i bobl a gedwir o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Os nad oes dewis arall ond amddifadu rhywun o'i ryddid, mae’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn dweud bod yn rhaid i ysbyty neu gartref gofal wneud cais i'r cyngor (ar gyfer cartrefi gofal) neu i'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol (ar gyfer ysbytai) am awdurdodiad. Gelwir y cyngor neu’r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yn Gorff Goruchwylio.

Os bydd y Corff Goruchwylio yn awdurdodi colli rhyddid, bydd hyn am gyfnod cyfyngedig (dim mwy na 12 mis) a bydd y Corff Goruchwylio yn rhoi amodau i sicrhau lles y person.

Wrth gwrs, weithiau efallai nad yw teulu neu ffrindiau person yn cytuno ag awdurdodiad. Mae'r Trefniadau Diogelu hefyd yn caniatáu i bobl yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad mewn llys barn.