Sut i gael cymorth gan Wasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol

Er mwyn cael cymorth gan Wasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol, mae’n rhaid i weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r teulu gysylltu â ni i drefnu cyfarfod cyfathrebu ar y cyd.

Beth yw cyfathrebu ar y cyd?

Cyfathrebu ar y cyd yw trafodaeth gyda’r teulu rydych chi’n gweithio â nhw ac aelod o dîm Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol.

Rydym yn edrych ar gryfderau, pryderon, nodau a beth a roddwyd cynnig arno eisoes a syniadau i gael cefnogaeth. Ein rôl yw gwrando, deall a helpu.

Yn ystod y cyfarfod cyfathrebu ar y cyd, rydym yn dechrau cynllunio sut all y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol eich cefnogi chi a’r teulu orau.

Sut i wneud cais am gyfarfod cyfathrebu ar y cyd

Gall gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi teuluoedd gysylltu â ni i wneud cais am gyfarfod cyfathrebu ar y cyd.

Yna gofynnir i chi lenwi’r ffurflen Cyfathrebu ar y Cyd, yna cyfarfod â thîm Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol.

Mae’n rhaid i ni gael caniatâd gan y rhiant neu’r unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant er mwyn i Wasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol allu helpu. Ni allwn gynnal cyfarfod Cyfathrebu ar y Cyd heb eu caniatâd.

Pwy all gael cymorth gan Wasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol?

Gallwn ond gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi teulu os ydi plentyn neu berson ifanc:

  • dan 18 mlwydd oed
  • yn byw yng Nghonwy neu Sir Ddinbych
  • yn dangos ymddygiad anodd gartref, fel:
    • ymddygiad corfforol ymosodol
    • ymddygiad llafar ymosodol
    • dinistrio eiddo
    • ymddygiad hunan-niweidio
    • ymddygiad sy’n tarfu ar eraill
  • yn achosi straen difrifol i berthnasoedd y teulu a bywyd dyddiol yn y cartref oherwydd eu hymddygiad

Pryd ddylai rhywun arall roi cymorth

Ni allwn helpu os:

  • ydi’r teulu mewn cyswllt â thimau arbenigol eraill, e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaethau Niwroddatblygiadol, timau Therapiwtig Conwy neu Sir Ddinbych a CALDS ac ati.
  • nid yw’r ymddygiad yn gysylltiedig ag anabledd dysgu
  • does dim tystiolaeth o oedi mewn datblygiad sylweddol mewn 2 faes neu fwy
  • ni ellir esbonio’r prif anawsterau ar anghenion iechyd meddwl
  • mae’r ymddygiadau heriol yn digwydd mewn lleoliadau addysg neu gymunedol

LIFT is a multi-agency collaborative team, funded by North Wales Social Care and Well-being Services Improvement Collaborative.

North Wales Social Care and Well-being Services Improvement Collaborate logo Betsi Cadwaladr University Health Board logo Conwy Borough Council logo Denbighshire County Council logo